Eich Budd-daliadau a Chredyd Cynhwysol

Cafwyd nifer o newidiadau mawr yn y ffordd o dalu budd-daliadau. Bydd Credyd Cynhwysol yn cymryd lle rhai budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy’n gweithio a phobl ddi-waith.

Bydd hyn yn effeithio arnoch chi os ydych yn cael:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith

Mae’r ffordd y byddwch chi’n cael eich arian a’r ffordd o’i dalu yn newid hefyd. Yn wahanol i’r sefyllfa bresennol, chi fydd yn gyfrifol am sicrhau bod yr arian rydych chi’n ei gael ar gyfer eich rhent yn cael ei dalu i ni.

Gyda’r holl newidiadau hyn mewn budd-daliadau, rydyn ni ar gael i’ch helpu i ddeall beth mae hyn yn ei olygu i chi, i’ch cyfeirio at wefannau defnyddiol i gael rhagor o wybodaeth, i’ch atgyfeirio i gael cyngor er mwyn sicrhau cymorth ychwanegol ac yn y blaen.

Os ydych chi’n meddwl y bydd yn anodd i chi gael trefn ar eich arian, talu’ch rhent neu filiau eraill, rydyn ni ar gael i’ch helpu.  Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn neu drwy’r e-bost (link to contact us form).

Dyma rai gwefannau defnyddiol ar gyfer Credyd Cynhwysol:

Dyma rai dolenni defnyddiol ar gyfer cymorth arall y gallech chi fod â hawl i’w gael gan y Cyngor: