Problemau wrth dalu’ch rhent
Os nad ydych chi’n gallu talu’ch rhent neu os yw’n anodd i chi ei dalu, siaradwch â ni.
Bydd aelod o’n tîm yn gallu siarad â chi am:
- eich opsiynau talu
- cyngor ar gyllidebu a rhoi enghreifftiau i chi o ffyrdd i gyllidebu’n well, yn cynnwys offer cyllidebu sydd ar gael gan Cyngor Ar Bopeth.
- eich cyfeirio at wefannau defnyddiol i gael rhagor o wybodaeth a’ch helpu i gael cymorth ychwanegol fel banciau bwyd, gwasanaeth cynghori ariannol, iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol etc.
Cofiwch, rydyn ni ar gael i siarad â chi a chynnig help. Er mwyn trafod sut y gallwn eich helpu, cysylltwch â ni ar-lein neu galwch ni ar 01824 706000.