Newidiadau yn eich tenantiaeth
Mae nifer o newidiadau y gellir eu gwneud yn eich tenantiaeth neu a all effeithio arni, yn cynnwys:
Newid enw
Os hoffech chi newid eich enw ar eich cytundeb tenantiaeth, yna bydd angen i chi lenwi ffurflen ‘Newid Enw’ drwy un ai:
- Llenwi’r ffurflen
- Cysylltu â ni
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gan roi’ch hen lofnod a’ch llofnod newydd, a’i dychwelyd gyda chopi o ddogfen sy’n dangos eich enw ar ôl ei newid yn gyfreithiol. Er enghraifft: - Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil
- Ysgariad – Archddyfarniad Terfynol
- Newid Enw – Gweithred Newid Enw
Oes modd tynnu enw rhywun oddi ar fy nhenantiaeth ? – troi cyd-denantiaeth yn denantiaeth un person
Dydyn ni ddim yn gallu ‘tynnu’ enw oddi ar gyd-denantiaeth. Os byddwch chi neu’r tenant arall am dynnu enw, bydd angen dod â’r denantiaeth bresennol i ben. I wneud hyn, dylech chi gysylltu â’r Swyddog Tai.
Dim ond mewn dau amgylchiad y mae’n bosibl troi cyd-denantiaeth yn denantiaeth un person.
- Drwy Orchymyn Llys - Gorchymyn Ad-drefnu Eiddo a wneir gan Lys Sirol yn gorchymyn trosglwyddo’r denantiaeth o enwau ar y cyd i enw unigol un parti
- Pan fydd cyd-denant yn marw – bydd y gyd-denantiaeth yn troi’n denantiaeth un person. Yr enw ar hyn yw “Olyniaeth”.
I gael rhagor o wybodaeth am newid eich tenantiaeth, cysylltwch â ni
Oes modd i mi ychwanegu person at fy nhenantiaeth? – troi tenantiaeth un person yn gyd-denantiaeth
Gwaetha’r modd, dydyn ni ddim yn gallu ychwanegu rhywun arall at denantiaeth un person. Os mai tenantiaeth un person sydd gennych chi, gallwch wneud cais i ni ystyried rhoi cyd-denantiaeth newydd gyda rhywun rydych chi’n cyd-fyw ag ef ar hyn o bryd. Fel arfer, dim ond cwpl sydd wedi priodi, sy’n bartneriaid sifil, neu sydd wedi cyd-fyw fel partneriaid priod neu sifil am o leiaf 12 mis fydd yn cael cyd-denantiaeth.
Er mwyn creu cyd-denantiaeth newydd, bydd yn rhaid dod â’ch tenantiaeth un person bresennol i ben. Ar ôl creu cyd-denantiaeth, does dim modd ei newid na’i haddasu, felly rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor annibynnol gan Shelter Cymru neu gan Cyngor Ar Bopeth Sir Ddinbych
Os hoffech chi wneud cais am ychwanegu rhywun at eich tenantiaeth, cliciwch yma a darparwch yr holl ddogfennau sydd eu hangen i ategu’r cais.