Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Tai Sir Ddinbych

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r hyn sydd wedi’i gyhoeddi ar barth www.taisirddinbych.co.uk

Caiff y wefan ei chynnal gan Tai Sir Ddinbych. Rydym eisiau i gymaint o bobl ag sy’n bosib allu defnyddio’r wefan hon.  Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu: 

  • chwyddo’r testun hyd at 300% heb unrhyw broblemau
  • gweld unrhyw gyferbyniad lliw yn glir er mwyn gallu darllen y testun yn hawdd
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml i’w ddeall ag y gallwn. 

Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch, er enghraifft:

  • nid yw’r testun yn llifo i un golofn wrth newid maint y ffenestr bori
  • nid oes modd addasu uchder y llinellau na’r bylchau rhwng y testun
  • nid yw’r rhan fwyaf o’r dogfennau PDF a dogfennau eraill hŷn yn gwbl hygyrch ar gyfer meddalwedd darllen sgrin
  • mae’n anodd gwe-lywio rhai o’n ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • nid oes modd neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio rhaglen darllen sgrin
  • mae yna gyfyngiad ar faint y gallwch chi chwyddo unrhyw fap
  • mae rhai tudalennau a dogfennau sydd wedi’u hatodi wedi’u hysgrifennu'n aneglur
  • nid oes gan rai tablau benawdau rhesi
  • mae’r cyferbyniad rhwng lliwiau’n wael ar rai tudalennau
  • mae rhai elfennau mewn perthynas â phenawdau yn anghyson 
  • nid oes testun amgen da ar rai o’r delweddau a’r fideos
  • mae rhai o’r botymau wedi’u nodi’n anghywir
  • nid yw rhai o’r negeseuon gwall wedi’u cysylltu’n amlwg â’r rheolyddion ffurflenni

Beth i’w wneud os nad yw rhannau o’r wefan hon yn hygyrch

Os ydych chi angen gwybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni gan nodi’r canlynol:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys 
  • eich enw a’ch cyfeiriad e-bost
  • y fformat sydd ei angen arnoch, er enghraifft print bras, PDF hygyrch

Rhoi gwybod i ni am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch chi ar draws unrhyw broblem nad yw wedi’i rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n meddwl nad ydym ni’n bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â ni

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd y byddwn yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ddod i’n gweld ni’n bersonol

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain neu os cysylltwch chi â ni cyn dod draw, fe allwn ni drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.  Sut i gysylltu â ni.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Tai Sir Ddinbych a Chyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018. 

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1, oherwydd y cynnwys nad yw’n cydymffurfio, sydd wedi’i restru isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
  • Nid yw’n bodloni’r meini prawf llwyddiant
  • Dyddiadau arfaethedig ar gyfer datrys y problemau
Nid oes dewis amgen i destun ar gyfer rhai delweddau, felly nid yw’r wybodaeth sydd ynddyn nhw ar gael i bobl sy’n defnyddio rhaglen darllen sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (cynnwys nad yw'n destun). Rydym yn bwriadu ychwanegu dewisiadau amgen i destun ar gyfer pob delwedd erbyn Mawrth 2024. 
 
Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau’n bodloni’r safonau hygyrchedd lle bo hynny’n bosib.
Nid oes penawdau rhesi ar rai tablau lle mae eu hangen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1A 1.3.1. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Mawrth 2024.
Mae rhai rhannau o'r wefan hon yn defnyddio cynnwys wedi'i fewnosod a ddarperir gan wefannau trydydd parti nad ydynt yn hygyrch, gan gynnwys y canlynol:
•          Chwilio gwefan
•          reCAPTCHA (Google)
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein ceisiadau trydydd parti ac yn gweithio gyda chyflenwyr i wella hygyrchedd y systemau hyn.

Baich anghymesur

Mae yna rai dogfennau/lluniadau, ond nid yw’r rhain yn gyfyngedig i’r rhestr isod, nad ydyn nhw’n bodloni’r safonau hygyrchedd oherwydd eu maint, eu hadnoddau a chost amcangyfrifedig bodloni’r safonau hygyrchedd, o ystyried amlder a hyd eu defnydd ar y wefan. 

  • Y rhai a ddarperir i ni gan drydydd partïon
  • Dogfennau a lluniadau technegol 
  • Ffurflenni cais
  • Dogfennau Excel
  • Dogfennau Word
  • Dogfennau Dylunio 
  • Newyddlenni tenantiaid

Os byddwch chi angen y mathau hyn o ddogfennau mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

Gwe-lywio a chael gafael ar wybodaeth

Nid oes unrhyw ffordd o osgoi’r cynnwys a ailadroddir ym mhennawd y dudalen (er enghraifft, dewis ‘neidio i’r prif gynnwys’). Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.1 (rhwystrau dargyfeirio).

Nid yw bob amser yn bosib newid gogwydd y ddyfais o fod yn llorweddol i fod yn fertigol heb ei gwneud yn anoddach gweld y cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.4  (gogwydd).

Ni all defnyddwyr newid maint y testun heb i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.4 (ailfeintio testun).

Offer a thrafodion rhyngweithiol

Mae’n anodd gwe-lywio rhai o’n ffurflenni rhyngweithiol gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig. Er enghraifft, oherwydd bod tag ‘label’ ar goll o rai rheolyddion ffurflenni.

Caiff ein ffurflenni eu llunio a’u cynnal drwy feddalwedd trydydd parti a’u gwneud i edrych fel ein gwefan ni. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf WCAG 2.1 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd).

Rydym wedi asesu cost datrys y problemau hyn gyda gwe-lywio a chael gafael ar wybodaeth, a gydag offer a thrafodion rhyngweithiol. Credwn y byddai gwneud hynny’n awr yn faich anghymesur o fewn yr ystyr yn y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn cynnal asesiad arall pan fydd y modiwlau cyflenwyr yn cael eu hadolygu nesaf, sy’n debygol o fod yn 2023.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Mae negeseuon gwall ar rai ffurflenni yn aneglur neu nid oes cysylltiad amlwg rhyngddynt â rheolyddion ffurflenni penodol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf WCAG 2.1A 3.3.1 (adnabod gwall).

Bydd canllawiau’n cael eu llunio i helpu awduron y cynnwys ddeall y gofynion o ran capsiynau a disgrifiadau sain ar gyfer pob fideo newydd. Mae hyn yn gysylltiedig â maen prawf WCAG 2.1A 1.2.2  (Capsiynau (wedi’u recordio ymlaen llaw)) ac 1.2.3 (Disgrifiad Sain neu Gyfrwng Amgen (wedi’i recordio ymlaen llaw)).

Dogfennau PDF ac eraill

Nid yw nifer o’n dogfennau PDF a Word hŷn yn hygyrch mewn sawl ffordd, e.e. nid ydynt yn cynnwys dewisiadau amgen i destun na strwythur dogfen.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu cywiro newyddlenni blaenorol i denantiaid. Bydd y rhan fwyaf o’r dogfennau PDF neu Word newydd y byddwn yn eu cyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd. Ni fydd dogfennau a ddarperir i ni gan drydydd partïon ac/neu ddogfennau a lluniadau technegol bob amser yn bodloni safonau hygyrchedd. Os byddwch chi angen y mathau hyn o ddogfennau mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

Sylwer: rydym yn ymwybodol bod gan ein cylchlythyr Tachwedd 2023 rai materion darllen sgrin ac rydym yn mynd i'r afael â'r rhain. Dylid datrys hyn erbyn 18 Rhagfyr 2023. 

Sut y profwyd y wefan hon

Profwyd y wefan hon ar 22 Medi 2021 i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG). Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) ac fe amlygodd y gwelliannau y gellid eu gwneud i wella hygyrchedd. . Cafodd ei ailbrofi ar 14 Tachwedd 2022 er mwyn cydymffurfio â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG). Cafodd y prawf ei gynnal gan Digital Accessibility Centre (DAC) a amlygodd welliannau y gellir eu gwneud i wella'r hygyrchedd. Rydym yn gweithio ar y gwelliannau hyn ac yn gobeithio cwblhau’r gwaith erbyn Ionawr 2023.

Amlygodd yr adroddiad y meysydd canlynol i’w gwella:

  • Gwe-lywio a chynllun tablau
  • Elfennau heb eu labelu neu wedi’u marcio’n anghywir 
  • Codio er mwyn darparu profiad defnyddiwr mwy hygyrch
  • Adolygu’r gwe-lywio a map y safle

Os hoffech chi ddarllen yr adroddiad hygyrchedd dylunio llawn, cysylltwch â ni.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn bwriadu canfod a datrys problemau yn unol â’r terfynau amser a nodir ar gyfer pob maes uchod.

Paratowyd y datganiad hwn ar 27 Chwefror 2020. 

vCafodd ei ddiweddaru ar 29 Tachwedd 2023.