Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych (DTARF)

Mae Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych (DTARF) yn sefydliad sy’n cynnwys yr holl gymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr ledled y sir.  Gall roi cymorth i chi hefyd i sefydlu cymdeithas newydd yn eich ardal.

Beth mae cymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr yn ei wneud?

Mae cymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr yn grwpiau o breswylwyr lleol a’n tenantiaid ni sy’n darparu cymorth a chyngor ar faterion tai a’r gymuned yn eu hardal.  Byddant yn cydweithio i ofalu am fuddiannau preswylwyr mewn cysylltiad â phethau fel tai, yr amgylchedd a bywyd cymunedol.

Byddwn ni’n siarad â chymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr am faterion sy’n debygol o effeithio arnynt, e.e. newidiadau mawr mewn polisi neu newidiadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu cartrefi.

Sut y gallaf gymryd rhan?

Y ffordd orau i gymryd rhan yw mynd i gyfarfod eich cymdeithas tenantiaid a phreswylwyr leol.  

Ein cymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr yw:

  • DTARF
  • Cymdeithas Marsh, y Rhyl
  • War Memorial Court, y Rhyl
  • Llys y Felin, Llanelwy
  • Trem y Foel, Rhuthun

Mae nifer o grwpiau hefyd sydd wedi’u seilio ar ein canolfannau adnoddau:

  • Canolfan Phoenix, y Rhyl
  • Pengwern, Llangollen
  • Maes Esgob, Dyserth
  • Llys y Felin, Llanelwy
  • Cysgodfa, Dinbych
  • Trem y Foel, Rhuthun
  • Llygadog, Corwen

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein grwpiau, sut i sefydlu’ch grŵp eich hun neu grŵp mewn canolfan adnoddau, cysylltwch ag aelod o’n tîm Datblygu Cymunedol.