Mathau o denantiaeth

Mae nifer o fathau o denantiaeth ar gael ac mae pob un yn rhoi hawliau a chyfrifoldebau gwahanol i chi.  Mae’r rhain yn cynnwys:

Tenantiaeth Ragarweiniol:

Mae pob tenant newydd yn cael tenantiaeth ‘ragarweiniol’ sy’n para am 12 mis, ac sy’n debyg i denantiaeth brawf.  Y prif bwyntiau am denantiaeth o’r math hwn yw:

  • Mae’n rhoi’r rhan fwyaf o’r hawliau sydd mewn tenantiaeth ddiogel, ond gall fod yn haws eich troi allan.
  • Ar yr amod na fyddwch chi’n torri’ch cytundeb tenantiaeth yn ystod y 12 mis cyntaf, byddwch chi’n dod yn denant diogel yn awtomatig, oni bai ein bod ni wedi cychwyn achos i ddod â’ch tenantiaeth i ben.
  • Rydyn ni’n cadw’r hawl i estyn y cyfnod prawf mewn rhai amgylchiadau.

Mae terfynau ar beth allwch chi ei wneud tra byddwch chi’n denant rhagarweiniol, er enghraifft:

  • Gwneud gwelliannau i’ch cartref
  • Ffeirio’ch cartref â thenant arall

Yn ystod cyfnod y Denantiaeth Ragarweiniol, os byddwch chi’n torri amodau yn eich cytundeb tenantiaeth, yna gallwn ni ddod â’r denantiaeth i ben drwy roi hysbysiad i chi, heb ddarparu rhesymau i lys.  I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma

Tenantiaeth Ddiogel:

Ar ôl 12 mis cyntaf y cytundeb tenantiaeth ragarweiniol, bydd y rhan fwyaf o’n tenantiaid yn dod yn denant diogel yn awtomatig.  Y prif wahaniaethau yw:

  • Bydd gennych chi fwy o hawliau cyfreithiol nag mewn tenantiaeth ragarweiniol a gallwch chi wneud y canlynol:
    • Cymryd lletywr ond ni fyddwch yn gallu is-osod yr eiddo cyfan
    • Ffeirio’ch cartref  am eiddo arall neu â thenant cymdeithas dai
    • Gwneud cais am drosglwyddo (aseinio) eich tenantiaeth i rywun arall sydd mewn amgylchiadau tebyg
    • Gwneud gwelliannau i’ch cartref ar ôl cael caniatâd gennyn ni
  • Rhaid i chi barhau i ymddwyn yn gyfrifol a chadw at amodau’ch cytundeb tenantiaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am fathau o denantiaeth, edrychwch ar eich cytundeb tenantiaeth

Tenantiaeth Un Person a Chyd-denantiaeth:

Gall ein tenantiaethau fod yn denantiaeth un person neu’n gyd-denantiaeth â rhywun arall. Byddwn ni’n cynnig cyd-denantiaethau yn ôl ein disgresiwn.  Ar ôl cytuno ar denantiaeth, ni fydd yn hawdd i ni ychwanegu na dileu enwau ar eich cais, yn wahanol i Gymdeithasau Tai eraill.  Os ydych chi am ychwanegu enw rhywun i’ch tenantiaeth, bydd angen i chi wneud cais i ni.  I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma

Tenantiaeth Un Person:

Pwy bynnag sydd â’i enw ar y cytundeb tenantiaeth, hwnnw fydd yn llwyr gyfrifol am y cytundeb tenantiaeth â ni.

Cyd-denantiaeth:

Mae hyn yn golygu mai’r un hawliau a chyfrifoldebau fydd gan y ddau ohonoch chi.  Fel arfer byddwn ni’n cynnig tenantiaeth o’r math hwn i gyplau sefydledig, ond gallwn ystyried ceisiadau am denantiaeth rhwng aelodau eraill o’r teulu.  Er hynny, ni fyddem yn cynnig cyd-denantiaeth i riant a phlentyn fel arfer.