
Ailddatblygu llety pobl hŷn i gartrefi newydd
Mae’r hen randai pobl hŷn ym Maes Emlyn yn Y Rhyl wedi bod yn wag ers peth amser. Rydym bellach mewn sefyllfa lle gallwn eich hysbysu o'n cynlluniau i gyflwyno cais Cynllunio ar gyfer datblygiad ar y safle.
Pam ydym ni'n cyflwyno'r cais Cynllunio hwn?
Rydym yn gwybod o'r rhestrau aros am dai yn Sir Ddinbych bod angen rhandai a chartrefi teulu yn Y Rhyl. Rydym yn credu y byddai’r hen lety pobl hŷn ym Maes Emlyn yn lleoliad addas ar gyfer datblygiad o’r fath.
Beth fydd yn digwydd os cymeradwyir y cais cynllunio?
Os caiff ein cais Cynllunio ei gymeradwyo, byddwn yn adeiladu 35 cartrefi ar y safle.
Pam rydym ni'n ymgynghori ynghylch ein cynigion ar hyn o bryd?
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyn i ni gyflwyno ein cais Cynllunio oherwydd mae hyn yn ofynnol ar gyfer datblygiadau a fydd yn darparu mwy na naw o gartrefi. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi edrych ar fersiynau drafft o'r dogfennau y byddwn yn eu cyflwyno gyda'n cais Cynllunio ac i wneud sylwadau am y cynigion.
Dogfennau cais cynllunio drafft
Bydd y dogfennau y byddwn yn eu cyflwyno gyda'n cais Cynllunio fel y rhai y gallwch eu gweld isod. Dyma'r fersiynau drafft a byddant yn cael eu cwblhau unwaith y cawn adborth o'r ymgynghoriad cyn ymgeisio hwn.
Mae'r ymgynghoriad ar geisiadau cyn cynllunio bellach ar gau.