Caradoc Road, Prestatyn

Cyflwyniad i’ch cartref newydd – Caradoc Road, Prestatyn

Croeso i’ch cartref newydd!

Mae’r canllaw byr hwn yn bwynt cyfeirio cyflym i’ch rhoi ar ben ffordd yn eich cartref newydd.

Ceir cyflwyniad byr isod ynghylch rhai o’r offer sydd gennych yn eich cartref, sy’n gweithio â’i gilydd i gynnig cartref Passivhaus sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon ar eich cyfer.

Passivhaus yw’r enw a roddir ar safon adeiladu ynni isel i gartrefi. Mae’n golygu y gall eich cartref gael cylchrediad aer ardderchog trwy gydol y flwyddyn, gan arbed 80% ar wres a ddefnyddir. Mae’r mathau hyn o gartrefi yn hawdd byw ynddyn nhw ac nid oes angen llawer o waith cynnal a chadw os ydych yn gwybod sut i gael y gorau ohonynt. I wneud hyn, mae angen i ni esbonio rhai pethau pwysig i chi yn y canllawiau hyn.

Cartrefi Passivhaus:

  • Mae eu lefelau insiwleiddio aerdyn yn uchel iawn.
  • Maent yn defnyddio system awyru tŷ cyfan i helpu i gadw costau rhedeg yn isel.
  • Maent yn gyfforddus, yn iach ac yn gynaliadwy.
  • Mae eu ffenestri yn perfformio ar lefel uchel.
  • Mae safon yr aer y tu mewn iddynt yn ardderchog.

Mae’r system MVHR yn darparu awyr iach wedi’i hidlo i mewn i’ch cartref, gan geisio cadw’r rhan fwyaf o’r ynni sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio i wresogi’ch cartref. Gan wneud eich cartref yn adeilad ynni isel o ansawdd uchel. Mae’r system yn gwbl awtomatig ac nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.

I’ch helpu i ymgartrefu yn eich cartref newydd, byddwn ni o gwmpas i roi cefnogaeth ac arweiniad yn ystod yr wythnosau a’r misoedd cyntaf. Gallwch ddisgwyl:

Wythnos gyntaf:

  • Byddwn yn eich helpu i ymgartrefu yn eich cartref a’ch cymuned newydd.
  • Cymerwch amser i ddarllen drwy’r canllawiau hyn a’r fersiwn lawn ar-lein, a dod i ddeall sut i fyw yn eich cartref yn y ffordd fwyaf effeithlon.
  • Cysylltwch os ydych yn ansicr ynglŷn ag unrhyw beth.

Ail wythnos:

  • Ar ôl i chi ymgartrefu, bydd aelod o’n tîm yn eich ffonio i drefnu ymweliad ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Wrth gwrs, os oes unrhyw beth brys, cysylltwch cyn hynny.

1 Mis:

  • Bydd aelod o’n tîm atgyweirio a chynnal a chadw, a’ch swyddog tai yn ymweld â chi i wirio bod popeth yn iawn.

3 Mis:

  • Bydd aelod o’n tîm yn dod i ddarllen eich mesuryddion a dangos i chi sut i wneud hynny.
  • Byddwn yn anfon e-bost a neges destun gyda ffurflen adborth i weld sut ydych yn ymgartrefu, a chanfod a oes unrhyw beth y gallem ei wneud yn well.

6 Mis:

  • Bydd eich swyddog tai yn dod i weld sut ydych yn ymgartrefu.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Byddwn yn galw heibio i wirio eich cartref gan edrych ar:
    • Sut rydych chi wedi ymgartrefu yn eich cartref.
    • Oes yna graciau crebachu sydd angen eu trwsio.
    • Cael adborth gennych chi am eich blwyddyn gyntaf yn eich cartref a gofyn a hoffech gymryd rhan mewn stori ar gyfer y papurau newydd lleol a’n newyddlen i denantiaid.

 


Cyngor o ddydd i ddydd ar sut i gael y gorau allan o fyw yn eich cartref newydd:

Dyma gyngor defnyddiol ar sut i fyw yn eich cartref newydd:

  • I gael y gorau allan o’ch paneli solar, ceisiwch ddefnyddio eich ynni yn ystod y dydd pan fo’r haul yn tywynnu. Ceisiwch ddefnyddio’ch trydan, h.y. peiriant golchi, ar ddiwrnodau heulog.
  • Cadwch eich ffenestri ar gau cymaint ag sy’n bosibl.
  • Ceisiwch ddefnyddio offer y cartref sy’n arbed ynni (cyfradd A) a bylbiau golau ynni isel.
  • Defnyddiwch y gawod yn hytrach na rhedeg bath cymaint â phosibl, mae hyn yn fwy effeithlon o ran defnydd ynni a dŵr.
  • Caewch y tapiau os nad ydych yn defnyddio’r dŵr.
  • Agorwch y bleindiau a’r llenni yn ystod y dydd yn y gaeaf.
  • Dylech bob amser gysylltu â ni ar 01824 706000 yn ystod oriau gwaith os ydych am wneud unrhyw newidiadau i’ch cartref. Fel hyn gallwn helpu i osgoi torri’r sêl ar eich cartref a’i wneud yn llai effeithlon.

Lle bo hynny’n bosibl, peidiwch â:

  • Agor neu gau’r tyllau awyru neu’r rhwyllau o amgylch eich cartref.
  • Gorchuddio neu gau bylchau o amgylch y drysau mewnol yn eich cartref. Mae’r rhain yno i helpu i gylchredeg aer o gwmpas y tŷ.

Gostyngwch eich thermostat
Ceisiwch ostwng eich thermostat gradd neu ddau - efallai nad yw hynny’n swnio’n llawer, ond bydd newid bach fel hyn yn cael effaith enfawr ar eich biliau. Yn amlwg, peidiwch â’i ostwng i bwynt ble mae’ch ystafell yn teimlo’n oer, ond trwy droi eich thermostat i lawr 1 gradd gallech arbed tua 10% ar eich bil ynni blynyddol. Mae hefyd yn eithriadol o bwysig nad ydych yn gosod eitemau dros eich thermostat fel cotiau neu gelfi.

Byddwch yn ddoeth gyda’ch amserydd
Gofalwch bod gosodiadau’r amserydd ar eich rheolydd yn gywir. Edrychwch ar amserlen eich cartref a phryd y bydd angen iddo fod yn gynnes, yna gosodwch yr amserwyr yn unol â hynny - er enghraifft, cyn i chi ddeffro neu ar ôl i chi orffen gwaith. Nid oes angen i’r gwres fod ymlaen pan nad ydych yn ei ddefnyddio. Trwy greu amserlen a gosod eich pwmp gwres i gynhesu dŵr ar wahanol amser i’ch system wresogi, byddwch yn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o ddŵr poeth ar gyfer eich anghenion.

Diffoddwch y gwres mewn ystafelloedd nad ydynt yn cael eu
Diffoddwch y gwres neu trowch y gwres i lawr i’r gosodiad diogelu rhag rhew yn yr ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio. Trwy addasu’r tymheredd ym mhob ystafell, byddwch yn cael mwy o reolaeth dros eich system wresogi a faint o ynni yr ydych yn ei ddefnyddio. Pan ydych yn gwresogi’r ystafelloedd sydd angen eu gwresogi yn unig, gofalwch eich bod yn cadw unrhyw ddrysau mewnol ar gau fel nad yw’r gwres yn dianc allan i weddill y tŷ.

Gwnewch y gorau o’r ynni yr ydych yn talu amdano
Peidiwch â dal gwres yn eich rheiddiaduron. Gofalwch nad oes llenni na chelfi yn atal gwres rhag mynd i mewn i’r ystafell. Codwch eich llenni ar y silff ffenestr os oes angen a thynnwch eich soffa ymlaen. Mae falfiau thermostatig wedi’u gosod ar eich rheiddiaduron i’ch galluogi i reoli’r tymheredd mewn ystafelloedd unigol. Mae rhifau o 1 i 5 ar y falfiau sy’n cyfateb i dymheredd yr ystafell. Rydym yn argymell gwneud newidiadau bach bob dydd nes i chi ddod o hyd i’r tymheredd gorau i chi; rydym yn awgrymu dechrau ar rif 2-3 mewn ystafelloedd gwely, yn y cyntedd a’r gegin, a 3-5 yn y lolfa a’r ystafell ymolchi.

Cadwch eich rheiddiaduron yn lân
Mae rheiddiaduron yn mynd yn boeth ac felly maent yn denu llwch a baw fel magnet os nad ydynt yn cael eu glanhau. Gall y baw sy’n casglu fod yn sylweddol. Gall rheiddiaduron budr iawn fod yn llai effeithlon na rhai glân, gan wneud i’ch system ddefnyddio mwy o ynni i gynhesu’r ystafell, a bydd hynny’n cael ei adlewyrchu mewn biliau ynni uwch. Ceisiwch lanhau’r esgyll darfudol yn rheolaidd - sef y rhigolau igam-ogam sy’n rhedeg i lawr cefn y rheiddiadur (a’r blaen). Gellir gwneud hyn gyda brwsh rheiddiadur coes hir neu trwy redeg blaen chwistrell eich sugnwr llwch ar hyd y top a’r gwaelod.

Cliciwch ar y ddolen hon i gael fideo ar sut i weithio'ch rheolyddion gwresogi a defnyddio'r system agor drysau.


Effeithlonrwydd Ynni

Wrth i filiau ynni godi, dyma ychydig o gyngor ac awgrymiadau ar bethau y gallwch eu gwneud i helpu:

  • Gofalwch eich bod yn defnyddio sosban y maint cywir ar gyfer y bwyd a’r hob.
  • Gofalwch eich bod yn gosod y caead ar y sosban i gadw’r gwres i mewn.
  • Wrth ferwi llysiau a phasta, dylech ddefnyddio digon o ddŵr i’w gorchuddio yn unig.
  • Mae popty microdon yn fwy effeithlon o ran ynni na phopty traddodiadol, felly defnyddiwch bopty microdon lle bo hynny’n bosibl, ond cofiwch ei ddiffodd yn y wal pan nad ydych yn ei ddefnyddio.
  • Coginiwch lawer o fwyd ar unwaith pan ydych yn defnyddio’ch popty traddodiadol. Gallwch rewi bwyd i’w gynhesu rywbryd eto a gallai hynny arbed amser i chi hefyd.
  • Mae bwydydd wedi’u torri yn ddarnau llai yn coginio’n gynt ac yn arbed amser.
  • Gofalwch bod y cylchoedd pentan ar y popty yn lân gan fod bwyd wedi llosgi yn amsugno gwres ac yn gwneud y cylch yn llai effeithlon.

  • Dylech ddad-rewi eich oergell a’ch rhewgell yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio mor effeithlon ag sy’n bosibl ac i atal iâ rhag casglu. Darllenwch y canllawiau defnyddio ar gyfer eich offer i gael mwy o gyngor yn ôl yr angen.
  • Os yw eich oergell a’ch rhewgell yn llawn, nid ydynt yn gorfod gweithio mor galed a byddant yn defnyddio llai o ynni.
  • Gofalwch fod bwyd wedi oeri cyn i chi ei roi yn yr oergell neu’r rhewgell.

  • Gofalwch eich bod yn rhoi llwythi llawn ac nid hanner llawn ymlaen.
  • Pan fo’n bosibl, defnyddiwch raglen arbed ynni ar eich peiriant golchi.
  • Sychwch eich dillad yn yr awyr agored pan fo hynny’n bosibl, a pheidiwch â rhoi dillad ar y rheiddiadur i sychu. Mae hyn yn cynyddu lefelau anwedd yn yr aer yn eich cartref ac yn cynyddu’r risg o falltod du.

  • Gofalwch bod offer y cartref yn cael eu diffodd yn y wal pan nad ydych yn eu defnyddio gan fod rhai offer yn dal i ddefnyddio ynni ar ôl gwasgu’r botwm cysgu (stand-by).
  • Defnyddiwch fylbiau golau arbed ynni o amgylch eich cartref, a gofalwch eich bod yn diffodd y golau pan nad ydych yn yr ystafell.

Cwestiynau Cyffredin

Nid oes gan eich cartref chi system wresogi arferol. Am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, ni ddylai fod angen i chi droi’r gwres ymlaen. Bydd y ffenestri a’r deunydd insiwleiddio yn helpu i gadw’r gwres i mewn. Yn y gaeaf, pan nad yw’n heulog y tu allan, efallai y bydd angen i chi ychwanegu gwres. Gallwch raglennu eich system wresogi a dŵr poeth i droi ymlaen a diffodd hyd at dair gwaith ar adegau gwahanol yn ystod y dydd.

Cliciwch ar y ddolen hon i gael fideo ar sut i weithio'ch rheolyddion gwresogi a defnyddio'r system agor drysau.

Gallwch agor ffenestri, ond nid oes angen i chi eu hagor i gael awyr iach. Mae system awyru’r tŷ yn gwneud hyn i chi trwy gael aer o’r awyr agored. Mae gan y ffenestri wydr triphlyg felly os ydych yn eu cadw ar gau, bydd eich cartref yn aros yn dawel ac yn gynnes. Mae’r system Awyru Mecanyddol gydag Adferiad Gwres (MVHR) yn gweithio’n well os yw eich ffenestri a’ch drysau ar gau.

Mae mesurydd wedi cael ei osod yn eich cartref. Rydym wedi cofrestru eich mesurydd trydan gyda Nwy Prydain. Os ydych yn dymuno newid darparwr, cysylltwch â’ch cyflenwr ynni dewisedig.

Mae’r system wedi’i gosod yn awtomatig drwy gydol y flwyddyn, felly nid oes angen i chi newid unrhyw osodiadau. Peidiwch â newid y gosodiadau hyn gan eu bod wedi cael eu gosod ar gyfer eich cartref chi.

Yn ystod tywydd sych, gallwch sychu eich dillad y tu allan. Os ydych yn sychu eich dillad dan do, defnyddiwch ffrâm sychu dillad. Bydd y dŵr mewn dillad gwlyb yn mynd allan o’ch tŷ drwy’r system MVHR a bydd aer sych yn dod i mewn yn ei le. Peidiwch â rhoi dillad gwlyb ar reiddiaduron i sychu.

Bydd y tymheredd yn eich cartref Passivhaus yn teimlo’n gynhesach na chartref traddodiadol gan nad oes mannau drafft. Bydd tymheredd eich cartref yn cael ei osod rhwng 16-22 gradd.

Mae eich system MVHR yn gallu diffodd y gosodiad adfer gwres pan fo’r tymheredd yn oerach y tu allan na’r tu mewn. Yn ystod tywydd cynnes, mae’n bwysig eich bod yn byw mewn tymheredd cyfforddus. Wrth i’r tymheredd ostwng y tu allan gyda’r nos, rydym yn awgrymu y dylech agor eich ffenestri i adael aer cynnes allan, a gadel aer oer i mewn.

Mae gan y system awyru fotwm hwb y gallwch ei wasgu i helpu i gael gwared ar arogleuon coginio a stêm yn yr ystafell ymolchi. Gweler y pwynt blaenorol sy’n dweud wrthych ble mae’ch botwm hwb.Yn y gegin mae gennych ffan echdynnu uwchben yr ardal goginio a fydd yn sugno arogleuon allan o’r gegin.

Fe ddewch o hyd i’r rheolyddion gwresogi uwchben drws y cwpwrdd dan grisiau. Os gwasgwch y botwm ADV (sy’n edrych fel rheiddiadur a thap), bydd y system wresogi neu ddŵr poeth yn troi ymlaen am 1 awr cyn diffodd.

Mae’ch cartref wedi cael ei adeiladu i atal drafftiau, er mwyn helpu i’ch cadw’n gynnes. Fe sylwch fod gennych flwch post allanol yn hytrach na thwll postio yn eich drws. Mae hyn er mwyn atal drafftiau o’ch cartref. Gofalwch bod eich cartref yn aros fel hyn, bydd angen cymeradwyaeth ysgrifenedig arnoch gan ein tîm atgyweirio a chynnal a chadw cyn gwneud unrhyw newidiadau neu addasiadau. Byddai angen i ddifrod i’ch cartref gael ei atgyweirio ar unwaith gan aelod o’n tîm ac mae’n bosibl y codir tâl am hynny.

Mae’ch cartref yn aerdyn a byddai twll postio arferol yn gadael gwres allan ac aer oer i mewn. Rydym wedi darparu blwch llythyrau allanol er mwyn osgoi hynny. Fe ddarperir y goriad. Blwch llythyrau du gyda goriad.

Mae eich cartref yn aerdyn, felly nid oes modd gosod pibell awyru y tu allan ar gyfer sychwr dillad arferol ac nid oes lle ar ei gyfer.

Dyma un o’r darnau pwysicaf o wybodaeth ynglŷn â byw yn eich cartref newydd. Oes, gallwch cyn belled â'u bod ynghlwm yn ddiogel.

Dyma un o’r darnau pwysicaf o wybodaeth ynglŷn â byw yn eich cartref newydd. Gan mai adeilad cymunedol yw hwn, ni allwch roi unrhyw beth y tu allan i'ch cartref sy'n trwsio'r waliau neu'r rheiliau.

Nid oes modd cael fflap ar gyfer ci na chath yn eich cartref, na gwneud unrhyw newidiadau i’ch drysau, gan y bydd hyn yn difrodi’r sêl ac yn gostwng perfformiad y tŷ.


I lawrlwytho PDF o'r canllaw hwn, cliciwch y ddolen hon.