Llys y Gegin

Mae Llys y Gegin yn ddatblygiad newydd arloesol, ein cartrefi cyngor cyntaf i’w hadeiladu ym Mhrestatyn mewn 30 mlynedd!

Gwybodaeth am Llys y Gegin

Mae Llys y Gegin wedi’i leoli ar Ffordd Caradoc ym Mhrestatyn, ar hen safle cantîn Ysgol Bodnant, a bydd yn gartref i bedwar o fflatiau un ystafell wely ar gyfer rhent cymdeithasol.

Mae’r fflatiau carbon isel hyn, a fydd yn cael eu hadeiladu a’u hardystio i safon arbed ynni Passivhaus, yn rhan o darged y Cyngor i ddarparu 170 yn fwy o dai cyngor erbyn 2022. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhan o’r gwaith adeiladu drwy ei Raglen Tai Arloesol.

Rhagor o wybodaeth

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon wrth i’r prosiect symud ymlaen.

ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cartrefi arloesol hyn, cliciwch yma.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’n cartrefi newydd, cysylltwch â ni.

Ymwadiad

Nodwch os gwelwch yn dda fod y lluniau a ddangosir i ddibenion enghreifftiol yn unig ac ni fydd unrhyw wybodaeth a gaiff ei chynnwys o fewn y ddogfen hon yn ffurfio unrhyw ran o denantiaeth. Mae’r holl fesuriadau a roir yn rhai bras.

 

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.