Mae gwaith wedi dechrau ar bedwar fflat effeithlon o ran ynni ym Mhrestatyn

Mae Tai Sir Ddinbych wedi dechrau adeiladu pedwar fflat un ystafell wely ar safle hen ffreutur Ysgol Bodnant ar Ffordd Caradoc.  

Mae’r fflatiau carbon isel, a fydd yn cael eu hadeiladu a’u hardystio i safon arbed ynni Passivhaus, yn rhan o darged y Cyngor i ddarparu 170 yn fwy o dai cyngor erbyn 2022 ac mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhan o’r gwaith adeiladu drwy ei Raglen Tai Arloesol.       

Peter T Griffiths Building Contractors o ogledd Cymru sydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddechreuodd ar  25 Ionawr, ac mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi.  

Meddai’r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r Cyngor yn falch iawn bod gwaith wedi dechrau ar y tai cyngor newydd hyn, ac rydym yn falch o fod yn gweithio gyda’n partneriaid ar y prosiect hwn. 

“Mae sicrhau bod yna dai ar gael i ddiwallu anghenion trigolion Sir Ddinbych yn flaenoriaeth o dan ein Cynllun Corfforaethol. 

“Bydd y cartrefi hyn yn helpu i ddiwallu’r anghenion o ran tai i drigolion drwy ddarparu cartrefi o ansawdd sy’n fforddiadwy yn ogystal â chynnig y lefelau uchaf o inswleiddiad i ddefnyddio llai o ynni ac arbed ynni i leihau allyriadau carbon a biliau’r cartref.

“Byddwn yn monitro lefelau sŵn, llwch a dirgryniad trwy gydol y gwaith i sicrhau nad ydym yn torri’r canllawiau, ac fe hoffem ddiolch i breswylwyr am eu dealltwriaeth tra bod y gwaith yn cael ei wneud.”

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James: “Mae hi’n wych gweld y gwaith yn dechrau ar y cartrefi arloesol yma. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ac sy’n gynaliadwy. Mae’r cartrefi yma ym Mhrestatyn yn enghraifft gwych o’r ymrwymiad yma, a bydd o fudd i bobl leol trwy ddarparu cartref diogel, carbon isel, ac yn fwyaf pwysig, yn fforddiadwy.”

 

Nodyn i olygyddion:

Ynghlwm y mae delweddau artist o’r fflatiau