At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

Strategaethau a chynlluniau

Strategaeth Dai

Datblygwyd Strategaeth Dai Sir Ddinbych ar sail y weledigaeth y dylai "Pawb gael eu cefnogi gyda balchder i fyw mewn cartrefi sy'n diwallu eu hanghenion, o fewn cymunedau bywiog a chynaliadwy Sir Ddinbych, yn unol â'n huchelgais”.

Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, datblygwyd y Strategaeth ar sail 5 thema, pob un ohonynt yn gysylltiedig â'i gilydd:

  • Mwy o gartrefi i fodloni’r angen a’r galw lleol
  • Creu cyflenwad o gartrefi fforddiadwy
  • Cartrefi diogel ac iach
  • Cartrefi a chymorth i bobl sy’n agored i niwed
  • Hyrwyddo a chefnogi cymunedau.