Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Tai Sir Ddinbych

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r hyn sydd wedi’i gyhoeddi ar barth www.taisirddinbych.co.uk

Caiff y wefan ei chynnal gan Tai Sir Ddinbych. Rydym eisiau i gymaint o bobl ag sy’n bosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu:

  • chwyddo’r testun hyd at 300% heb unrhyw broblemau
  • gweld unrhyw gyferbyniad lliw yn glir er mwyn gallu darllen y testun yn hawdd
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml i’w ddeall ag y gallwn.

Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch, er enghraifft:

  • nid yw’r rhan fwyaf o’r dogfennau PDF a dogfennau eraill hŷn yn gwbl hygyrch ar gyfer meddalwedd darllen sgrin.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd y byddwn yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS). (Gwefan allanol)

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ddod i’n gweld ni’n bersonol

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain neu os cysylltwch chi â ni cyn dod draw, fe allwn ni drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain. Sut i gysylltu â ni.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Tai Sir Ddinbych a Chyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018. (Gwefan allanol).

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1, oherwydd y cynnwys nad yw’n cydymffurfio, sydd wedi’i restru isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

  • Nid yw’n bodloni’r meini prawf llwyddiant
  • Dyddiadau arfaethedig ar gyfer datrys y problemau

Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau’n bodloni’r safonau hygyrchedd lle bo hynny’n bosib.

Mae rhai rhannau o'r wefan hon yn defnyddio cynnwys wedi'i fewnosod a ddarperir gan wefannau trydydd parti nad ydynt yn hygyrch, gan gynnwys y canlynol:

  • reCAPTCHA (Google)

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein ceisiadau trydydd parti ac yn gweithio gyda chyflenwyr i wella hygyrchedd y systemau hyn.

Baich anghymesur

Mae yna rai dogfennau/lluniadau, ond nid yw’r rhain yn gyfyngedig i’r rhestr isod, nad ydyn nhw’n bodloni’r safonau hygyrchedd oherwydd eu maint, eu hadnoddau a chost amcangyfrifedig bodloni’r safonau hygyrchedd, o ystyried amlder a hyd eu defnydd ar y wefan.

  • Y rhai a ddarperir i ni gan drydydd partïon
  • Dogfennau a lluniadau technegol
  • Ffurflenni cais
  • Dogfennau Excel
  • Dogfennau Word
  • Dogfennau Dylunio
  • Newyddlenni tenantiaid

Os byddwch chi angen y mathau hyn o ddogfennau mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

Gwe-lywio a chael gafael ar wybodaeth

Nid oes unrhyw ffordd o osgoi’r cynnwys a ailadroddir ym mhennawd y dudalen (er enghraifft, dewis ‘neidio i’r prif gynnwys’). Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.1 (rhwystrau dargyfeirio).

Nid yw bob amser yn bosib newid gogwydd y ddyfais o fod yn llorweddol i fod yn fertigol heb ei gwneud yn anoddach gweld y cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.4 (gogwydd).

Ni all defnyddwyr newid maint y testun heb i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.4 (ailfeintio testun).

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni gywiro dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu cywiro rhai o’n newyddlenni i denantiaid.

Mae negeseuon gwall ar rai ffurflenni yn aneglur neu nid oes cysylltiad amlwg rhyngddynt â rheolyddion ffurflenni penodol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf WCAG 2.1A 3.3.1 (adnabod gwall).

Bydd canllawiau’n cael eu llunio i helpu awduron y cynnwys ddeall y gofynion o ran capsiynau a disgrifiadau sain ar gyfer pob fideo newydd. Mae hyn yn gysylltiedig â maen prawf WCAG 2.1A 1.2.2 (Capsiynau (wedi’u recordio ymlaen llaw)) ac 1.2.3 (Disgrifiad Sain neu Gyfrwng Amgen (wedi’i recordio ymlaen llaw)).

Dogfennau PDF ac eraill

Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu cywiro newyddlenni blaenorol i denantiaid. Bydd y rhan fwyaf o’r dogfennau PDF neu Word newydd y byddwn yn eu cyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd. Ni fydd dogfennau a ddarperir i ni gan drydydd partïon ac/neu ddogfennau a lluniadau technegol bob amser yn bodloni safonau hygyrchedd. Os byddwch chi angen y mathau hyn o ddogfennau mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

Sut y profwyd y wefan hon

Rydym wedi profi hygyrchedd ein gwefan yn defnyddio offer awtomataidd, gan gynnwys:

  • W3C validator
  • WAVE - offeryn gwerthuso hygyrchedd y we
  • ARC Toolkit
  • Total Validator
  • Axe DeyTools
  • Colour Contrast Analyser
  • Lighthouse

Beth i’w wneud os na allwch chi fynd at rannau o’r wefan hon a’ch bod chi eisiau rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd mewn perthynas â’r wefan

Os ydych chi angen gwybodaeth mewn fformat gwahanol. Ar waelod pob tudalen gwe, mae yna offeryn adborth i chi ei ddefnyddio i roi gwybod i ni sut y gallwn ni wella’r dudalen honno. Mae croeso i chi gyflwyno unrhyw welliannau sydd gennych chi yn defnyddio’r offeryn hwn. Neu, cysylltwch â ni.

  • Ffioniwch 01824 706000
  • Cysylltwch â ni ar lein (rhoi dolen yma)
  • Ewch i unrhyw un o Siopau Un Alwad y Cyngor
  • Ysgrifennwch atom:
    Tai Sir Ddinbych, Cyngor Sir Ddinbych
    Blwch Post 62
    Rhuthun
    LL15 9AZ

gan nodi'r canlynol;

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich enw a'ch cyfeiriad e-bost
  • y fformat sydd ei angen arnoch, er enghraifft print bras, PDF hygyrch

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn bwriadu canfod a datrys problemau yn unol â’r terfynau amser a nodir ar gyfer pob maes uchod.

Rydym wedi datblygu a chyflwyno gwefan newydd ar gyfer Tai Sir Ddinbych gyda’r prif nod o wella hygyrchedd i’n gwybodaeth a’n gwasanaethau ar-lein.

Rydym wastad yn croesawu adborth ac adolygiadau gan ddefnyddwyr er mwyn iddyn nhw gael y profiad gorau posib wrth ddefnyddio ein gwefan. Os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw beth nad yw’n bodloni eich anghenion wrth ddefnyddio’r wefan hon, cysylltwch â ni i roi gwybod i ni am eich problem a’ch dewis o fformat. Cysylltwch â ni tai@sirddinbych.gov.uk

Paratowyd y datganiad hwn ar 27 Chwefror 2020.

Cafodd ei ddiweddaru ar 18 Medi 2025.