Buddsoddi yn ein cartrefi

Prosiectau gwella a gwaith wedi'i gynllunio

Mae gennym fwy na 3,400 o gartrefi yn Sir Ddinbych, ac rydym yn falch eu bod o’r safon orau posibl. Rydyn ni wedi cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru ers 2014, gan ddarparu cartrefi y gallwch fod yn falch ohonynt. Rydym yn rhedeg rhaglen wella sy’n gweithio drwy’r amser i sicrhau bod ein cartrefi’n rhagori ar y safon hon er eich mwyn chi.

Beth yw Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)?

Mae SATC yn set o safonau y mae’n rhaid i holl gartrefi cynghorau a chymdeithasau tai Cymru eu cyrraedd. Mae’r safon yn datgan bod rhaid i bob cartref:

  • fod mewn cyflwr da
  • bod yn ddiogel a chadarn
  • cael ei wresogi’n dda
  • cynnwys cegin ac ystafell ymolchi fodern
  • cael ei reoli’n dda
  • bod mewn amgylchedd deniadol a diogel
  • bod yn addas i aelwydydd penodol

Pa waith y gallwch ddisgwyl ei weld ar eich eiddo?

Ar hyn o bryd, mae dwy raglen waith yn mynd yn eu blaen sy’n buddsoddi yn ein cartrefi.

Gwaith Trwsio Cyfalaf

Mae manylion y rhaglen gwaith trwsio cyfalaf yn ein Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai. Mae hwn yn dangos y rhaglen gwaith trwsio a’r anghenion cyllideb ar gyfer y 30 mlynedd nesaf. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfnewid ac uwchraddio’r canlynol pan fyddant yn dod i ddiwedd eu hoes:

  • Ceginau / Ystafelloedd Ymolchi
  • Toeau
  • Drysau
  • Ffenestri
  • Gwresogi canolog
  • Ailosod gwifrau trydan
  • Cynlluniau ailfodelu

Gwaith Cyfalaf Arall

Yn ogystal â’r rhaglenni trwsio cyfalaf, mae prosiectau cyfalaf ar gyfer cynnal a gwella ein hystadau drwy raglenni gwella amgylcheddol cynlluniedig.

Rydym hefyd yn ymdrechu i gynyddu ein stoc dai drwy brynu / adeiladu 170 o unedau eiddo er mwyn parhau i gyrraedd safon SATC yn y 3 blynedd nesaf Rydym wedi ymrwymo i roi £6M yna yn ystod 2022-23 i gyflawni hyn.

Sut bydd y gwaith hwn yn cael ei ariannu?

  • Gwaith Trwsio Cyffredinol - Yn 2023/24 gwariwyd £3.5 miliwn ar y rhaglen trwsio cyffredinol ac ymatebol, ariannwyd y gwaith hwn o’r incwm o renti Tai Cyngor. Yn 2024/25 mae yna amcangyfrif y bydd y rhaglen yn costio tua £3.8m.
    Trwsio eiddo gwag - Yn 2023/24 gwariwyd £4.4 miliwn ar adfer unedau eiddo gwag at safon uwch ar gyfer eu gosod. Yr amcangyfrif o’r gost am hyn yn 2024/25 yw £3.8 miliwn.
    Rhaglen Gyfalaf - Cost y rhaglen trwsio gyfalaf yn 2023/24 oedd £5.4miliwn, ariannwyd y gwaith hwn gan nifer o wahanol ffrydiau incwm. Yr amcangyfrif o’r gost am hyn yn 2024/25 yw £14.4 miliwn. Bob blwyddyn byddwn yn cael grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru. Yr amcangyfrif o’r gost am hyn yn 2023/24 yw £2.3 miliwn.
Logo Llywodraeth Cymru
Logo Llywodraeth Cymru
Llun o'r awyr o Dinbych Uchaf yn dangos y tai wedi'u hadnewyddu gyda rendr a thoeau newydd
Llun o'r awyr o Dinbych Uchaf yn dangos y tai wedi'u hadnewyddu gyda rendr a thoeau newydd
Balconïau gwydr newydd a gwell, tu allan i'r coed a ffenestri dwbl llwyd i fflatiau yn Heol Caradoc, Prestatyn
Balconïau gwydr newydd a gwell, tu allan i'r coed a ffenestri dwbl llwyd i fflatiau yn Heol Caradoc, Prestatyn
Hen fflatiau yn Heol Caradog, Prestatyn. Mae gan y fflatiau DU allan Brown gyda balconïau wedi'u cripo
Hen fflatiau yn Heol Caradog, Prestatyn. Mae gan y fflatiau DU allan Brown gyda balconïau wedi'u cripo
Cynllun amgylchynol allanol gyda rendr a tho newydd
Cynllun amgylchynol allanol gyda rendr a tho newydd