At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

Cymhorthion ac addasiadau

Bob blwyddyn, rydym yn cwblhau nifer o addasiadau i’n tai er mwyn sicrhau bod ein tenantiaid yn gallu parhau i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi.

Gall addasiadau mawr gynnwys:

  • cael gwared ar yr ystafell ymolchi
  • gosod ystafell gawod wlyb
  • gosod lifft ar y grisiau i wneud llety ar y llawr cyntaf yn fwy hygyrch

Gall addasiadau bychain gynnwys:

  • gosod rheiliau gafael mewnol, rheiliau llaw, rampiau allanol a saff goriadau.

Os ydych chi'n teimlo y byddech chi'n elwa o addasiad i'ch cartref, cysylltwch â’r Un Pwynt Mynediad ar 0300 456 1000 neu e-bostiwch nhw ar spoa spoa@denbighshire.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.