At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

Diogelwch Nwy a Gwasanaethu Systemau Tanwydd Solet

Nwy

  • Os bydd argyfwng nwy: Os ydych chi’n clywed aroglau nwy, neu os yw nwy wedi dianc – caewch y prif gyflenwad a ffoniwch Wales & West Utilities ar 0800 111 999
  • Ar gyfer gwaith trwsio nwy nad yw’n argyfwng, ffoniwch Liberty Gas ar 0330 333 8384

Mae’ch diogelwch yn bwysig i ni ac rydym wedi ymrwymo i chi ac i’r gyfraith i gynnal archwiliadau diogelwch nwy blynyddol yn ein cartrefi. Mae’n bwysig iawn i chi adael ein contractwyr i mewn i’ch cartref (ar ôl dangos prawf o bwy ydynt) i gynnal yr archwiliadau. Os na fyddwn yn gallu cynnal yr archwiliadau, yna mae’n bosibl y byddwn yn gorfod cymryd camau cyfreithiol i gael caniatâd i fynd i mewn i’ch cartref.

Ar gyfer argyfyngau eraill, ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 01824 706000 rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener neu ffoniwch 0300 123 3068 (y tu allan i oriau swyddfa).

Os na fyddwn yn gallu cynnal yr archwiliadau, yna mae’n bosibl y byddwn yn gorfod cymryd camau cyfreithiol i gael caniatâd i fynd i mewn i’ch cartref.

Ar gyfer argyfyngau eraill, ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 01824 706000 rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener neu ffoniwch 0300 123 3068 (y tu allan i oriau swyddfa).

Tanwydd Solet

Ar gyfer unrhyw atgyweiriadau ar offer oel a thanwydd solet, cysylltwch â’n canolfan gyswllt ar 01824 706000.

Mae’r holl offer oel a thanwydd solet yn cael eu gwasanaethu bob blwyddyn gan ein contractwyr. Mae’n bwysig iawn i chi adael ein contractwyr i mewn i’ch cartref (ar ôl dangos prawf o bwy ydynt) i gynnal yr archwiliadau.