At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

TPAS Cymru

Mae TPAS Cymru yn sefydliad sy’n gweithio gyda landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru i helpu i lunio gwasanaethau tai.

Mae’n cynnig nifer o wahanol gyfleoedd hyfforddi ac ymgysylltu ledled y gogledd ac yn manteisio ar arbenigedd sefydliadau o natur debyg.

Ewch i’w gwefan os oes gennych ddiddordeb mewn gweld pa ddigwyddiadau sydd ar gael.

TPAS Cymru Digwyddiadau

Beth yw Pwls Tenantiaid?

Ydych chi am wella tai?

Llais tenantiaid yng Nghymru yw Pwls Tenantiaid. Fe’i crëwyd gan TPAS Cymru ac fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Eu prif nod yw darganfod beth sydd bwysicaf i denantiaid yng Nghymru. Mae canlyniadau eu harolygon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru a landlordiaid i greu polisi tai sy'n gweithio i denantiaid, ac sy'n gwneud tai yng Nghymru yn fwy diogel a thecach.

Dewch i gael dweud eich dweud trwy ymuno â'r miloedd o denantiaid sydd eisoes wedi'u cofrestru.

Logo TPAS Cymru