Mae mannau agored o ansawdd da yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant pobl. Rydym am ddarparu mannau agored ar eich ystadau y gallwch eu mwynhau gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.
Byddwn yn gwneud gwahanol fathau o welliannau amgylcheddol drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys:
- Gwella ystadau, lle byddwn yn edrych ar yr ardal gyfan, yn cynnwys llwybrau mynediad a mannau gwyrdd
- Mannau tyfu cymunedol a rhandiroedd
- Gerddi cymunedol
- Gerddi cymunol o gwmpas fflatiau
Nod ein holl brosiectau yw gwella amgylcheddau lleol pobl, hyrwyddo bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, a pharatoi at y newid yn yr hinsawdd.
Ar eich cyfer chi y mae’r holl welliannau’n digwydd; wedi’r cwbl, dyma lle rydych chi’n byw! Hoffen ni weithio gyda chi i ddatblygu’r mannau gwyrdd yn eich ardal a chynnig cyfleoedd i chi wirfoddoli ar brosiectau sy’n cael eu rhedeg ar y cyd â’r Gwasanaeth Cefn Gwlad. Os ydych chi’n meddwl bod lle ar eich ystad y byddai’n werth ei wella, cysylltwch â ni.
Dyma rai o’n prosiectau diweddaraf:
Natur er Budd Iechyd
Os hoffech chi wella’ch iechyd a llesiant drwy fynd i’r amgylchedd naturiol lleol, dewch i gymryd rhan yn un o’n prosiectau Natur er Budd Iechyd, sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.
Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle i gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd, wrth gydweithio i warchod a gwella’r amgylchedd naturiol lleol. Cynhelir y prosiect yn:
- The Marsh a Chanolfan Phoenix, Rhydwyn Drive, y Rhyl
- Morfa Gateway, Prestatyn
- Canolfan Gymunedol Pengwern, Llangollen
- Canolfan Ni, Corwen
Dyma rai o’r prosiectau rydym wedi gweithio arnynt ers dechrau’r prosiect:
- Sgiliau coetir, crefftau goroesi yn y gwyllt a brecwast yn y coed
- Cyfleoedd i wneud gwaith cadwraeth a garddio gwirfoddol
- Teithiau cerdded ymwybyddiaeth ofalgar, cerdded Llychlynnaidd a theithiau iechyd
- Celf a Chrefft amgylcheddol, yn cynnwys plethu gwiail, gwneud ffelt a blychau adar, ystlumod a phathewod
- Sesiynau rhandiroedd a thyfu bwyd
- Teithiau i erddi lleol a safleoedd AHNE
- Gweithgareddau dros y gwyliau ar gyfer pobl iau a theuluoedd
If you would like more information about activities near you, follow the links below:
Mae enghreifftiau o brosiectau yn cynnwys:
- Porth y Waen, Aberchwiler – gwnaethon ni welliannau o flaen yr eiddo yn yr ardal i wella’r mannau gwyrdd a darparu gwell cyfleusterau parcio i breswylwyr.
- Caradoc Road, Prestatyn – cynllun ar gyfer gwella adeiladwaith allanol y fflatiau a darparu mannau awyr agored newydd a gwell i breswylwyr.
- Parc Bruton, y Rhyl – darparwyd coridor gwyrdd drwy’r ystad i gysylltu’r man chwarae â’r coetir cymunedol yng nghefn yr ystad. Roedd y gwaith yn cynnwys yr ardal o gwmpas y llyn sy’n gynefin i’r Fadfall Ddŵr Gribog.
- Llys y Felin, Llanelwy – gofynnodd preswylwyr i ni eu helpu i ddatblygu’r ardd gymunedol yng nghefn y ganolfan gymunedol i’w defnyddio i gynnal digwyddiadau.

