Diogelu

Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, pwy bynnag ydyn nhw a beth bynnag yw eu hamgylchiadau. Mae diogelu yn ymwneud ag amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed rhag eu cam-drin a’u hesgeuluso. Mae pob un ohonom yn gyfrifol am ddiogelwch yr aelodau o’n cymunedau sydd fwyaf agored i niwed.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i weithio a hyrwyddo llesiant y rheini sydd ag angen gofal a chymorth, neu ofalwyr sydd ag angen cymorth.

Os byddwch chi’n gweld neu’n gwybod am sefyllfa sy’n peri pryder, peidiwch â’i hanwybyddu. Rhowch wybod i ni drwy gysylltu â’r canlynol:

Dod o hyd i ragor o wybodaeth am ddiogelu (yn agor mewn tab newydd) .

Cam-drin Domestig – Adduned Gwneud Safiad

Cam-drin domestig yw un o’r problemau mwyaf a wynebwn mewn cymdeithas heddiw. Mae dwy fenyw yn cael eu lladd bob wythnos yn y DU gan eu partner neu gyn-bartner.

Rydym wedi addunedu ac ymrwymo i gymryd camau i helpu pobl sy’n profi cam-drin domestig. Rydym wedi cytuno i gymryd pedwar cam:

  1. Sefydlu polisi i helpu tenantiaid sy’n profi effaith cam-drin domestig.
  2. Trefnu i wybodaeth fod ar gael ar ein gwefan ac mewn mannau priodol eraill am wasanaethau cymorth cam-drin domestig lleol a chenedlaethol fel bod tenantiaid a staff yn gallu cael gafael arnynt yn rhwydd.
  3. Sefydlu polisi Adnoddau Dynol, neu ddiwygio ein polisi presennol, i gynorthwyo aelodau staff a all fod yn profi cam-drin domestig.
  4. Penodi hyrwyddwr ar lefel uwch yn Tai Sir Ddinbych a fydd yn atebol am ein gweithgarwch i helpu pobl sy’n profi cam-drin domestig.

View more information about our pledge (yn agor mewn tab newydd) .

I gael rhagor o wybodaeth am yr adduned, ewch i www.cih.org/knowledge-hub/domestic-abuse/make-a-stand/

Llinellau cymorth defnyddiol

Mae’r Llinell Gymorth Trais Domestig Genedlaethol yn llinell gymorth gyfrinachol sydd ar gael am ddim ac yn cael ei rhedeg gan Women’s Aid a Refuge ar gyfer unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig. Mae ar gael bob awr o’r dydd a’r nos, saith diwrnod yr wythnos. Gallwch ei ffonio ar 0808 2000 247 neu www.nationaldahelpline.org.uk (yn agor mewn tab newydd)

Mae Cymorth i Ferched yn darparu gwahanol fathau o wybodaeth a chymorth yng nghyswllt cam-drin domestig, yn cynnwys cymorth i bobl sy’n profi cam-drin domestig a phobl sy’n poeni bod pobl eraill yn ei brofi. Gallwch gysylltu â nhw ar 0808 80 10 800 neu welshwomensaid.org.uk (yn agor mewn tab newydd) .

Gwneud safiad yn erbyn tystysgrif trais domestig
Gwneud safiad yn erbyn tystysgrif trais domestig