At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

Ieuenctid

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn cefnogi pobl ifanc 11-25 mlwydd oed, gan ddarparu ymyriadau cyffredinol a phenodol.

Mae swyddogion ieuenctid yn darparu gwasanaeth ledled y sir drwy amrywiaeth o ddulliau i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Mae’r rhain yn cynnwys darpariaeth mewn canolfannau fel canolfannau ieuenctid ac adeiladau cymunedol, yn ogystal â phrosiectau allgymorth sy’n cynnwys gemau stryd. Ewch i'w gwefan am ragor o wybodaeth neu sut allwch chi gymryd rhan:

Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych