Mannau chwarae

Rydym am annog plant i ddysgu drwy chwarae, a dyma’r rheswm dros ddechrau datblygu ein rhaglen mannau chwarae a gwella tirwedd. Mae nifer o fannau chwarae wedi’u huwchraddio eisoes, gan fod eu cyfarpar yn hen a threuliedig. Nid oedd y safleoedd yn ddeniadol chwaith nac wedi denu buddsoddi, felly nid oeddent yn cael eu defnyddio gan gymunedau lleol.

Rydym wedi buddsoddi mwy nag £1.7 miliwn yn barod i uwchraddio nifer o fannau chwarae, gan gynnwys amrywiaeth o gyfarpar newydd ac ymestynnol. Rydym yn parhau i wella rhai o’r mannau sy’n weddill ac maent wedi’u dewis ar sail eu cyflwr presennol a’u haddasrwydd. Rydym yn edrych ymlaen at weld ein mannau chwarae cymunedol yn llawn prysurdeb eto.

Rhai o’r mannau chwarae sydd wedi’u gwella hyd yma yw:

  • Coronation Close, Bodelwyddan
  • Clawdd Poncen, Corwen
  • Maesafallen, Corwen
  • Godre’r Coed, Cynwyd
  • Cae Hywel, Dinbych
  • Pen y Graig, Dinbych
  • Station Road, Gwyddelwern
  • Maes Sadwrn, Henllan
  • Llidiart Annie, Llantysilio
  • South Avenue, Prestatyn
  • Parc Bruton, y Rhyl
  • Kinglseys Avenue, y Rhyl
  • Sholing Drive, y Rhyl
  • Y Geufron, y Rhyl
  • Maes Hafod, Rhuthun
  • Heol Clwyd, Llanelwy

O ganlyniad i’n buddsoddi mewn mannau chwarae, mae cyfarpar modern, arloesol yn cael ei osod yn lle’r cyfarpar presennol er mwyn denu rhai o bob oed a bod yn hollol gynhwysol. Rydyn ni’n gwir obeithio y bydd ein cymunedau’n mentro i’r mannau chwarae newydd a gwell!

Plant yn chwarae ar offer chwarae lliwgar newydd yn Henllan
Plant yn chwarae ar offer chwarae lliwgar newydd yn Henllan
Teulu o 3 yn chwarae ar siglen rhaff newydd yn Rhuthun
Teulu o 3 yn chwarae ar siglen rhaff newydd yn Rhuthun
Pedwar o blant yn chwarae ar bont rhaff yn Rhuthun
Pedwar o blant yn chwarae ar bont rhaff yn Rhuthun
Lle chwarae lliwgar newydd gyda fframiau dringo, siglenni a llithrennau yn Rhuthun
Lle chwarae lliwgar newydd gyda fframiau dringo, siglenni a llithrennau yn Rhuthun