At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

Eich helpu chi gyda’ch tenantiaeth

Cadw’ch tenantiaeth

Cyflwyno’r tîm Cymorth Tenantiaid.

Os ydych chi’n teimlo’n bryderus, wedi’ch llethu, yn unig neu os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ymdopi, rydym yma i helpu.

Os oes angen help arnoch gydag unrhyw beth a allai beryglu eich tenantiaeth, gallwn gynnig cefnogaeth ac arweiniad gyda:

  • Rheoli eich cartref
  • Anawsterau ariannol a dyledion
  • Iechyd a lles
  • Argyfwng tenantiaeth
  • A llawer mwy.

Byddwn yn gweithio gyda chi i ganfod datrysiadau realistig er mwyn i chi allu byw yn gyfforddus, diogel a saff yn eich cartref.

I gael rhagor o wybodaeth am sut gallwn ni helpu, cysylltwch â’ch Swyddog Tai ar 01824 706000 neu anfonwch e-bost at tai@sirddinbych.gov.uk