At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

Mathau o denantiaeth

Tenantiaeth Un Person a Chyd-denantiaeth

Gall ein tenantiaethau fod yn Gontractau Tenantiaeth unigol neu Gyfun gyda rhywun arall ac fe’u cynnig ar ein dymuniad ni. Unwaith y cytunir ar Gontract Tenantiaeth, bydd angen i chi siarad â ni i ychwanegu neu dynnu enwau. Os ydych am ychwanegu rhywun at eich Contract Tenantiaeth, bydd angen i chi wneud cais wrthym.

Newid eich Cytundeb Tenantiaeth

Tenantiaeth Un Person

Pwy bynnag sydd â’i enw ar y Contract Tenantiaeth, hwnnw fydd yn llwyr gyfrifol am y Contract Tenantiaeth â ni.

Contract Cyd-Denantiaeth

Mae hyn yn golygu mai’r un hawliau a chyfrifoldebau fydd gan y ddau ohonoch chi.