Byddwn yn trin y plâu canlynol o fewn ein heiddo, am ddim:
- llygod mawr
- llygod
- chwain
- chwilod duon
- llau gwely.
Fe allwch dderbyn cyngor ar sut i ddelio â phlâu eraill y tu allan i'ch cartref gan Gymdeithas Rheoli Plâu Prydain.
Mae'r cyngor hwn ar gael yn Saesneg yn unig. Byddwn ond yn cynnal un cwrs o driniaeth. Os yw'r broblem yn dychwelyd ar ôl i ni drin y pla, y tenant fydd yn gyfrifol am drin y pla eto.
Efallai y bydd rhaid i chi dalu tâl os yw eich gweithredoedd wedi achosi'r pla. Noder, os byddwch yn methu â chadw apwyntiad, byddwn yn atal y driniaeth a byddwch yn gyfrifol am wneud eich trefniadau rheoli plâu hun ar eich traul eich hun.
Os ydych yn teimlo fod gennych broblem, dylech adael i ni wybod, fel y gallwn edrych i mewn i’r peth.