At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

Rheoli’ch Contract Tenantiaeth

Rydyn ni ar gael i’ch helpu i reoli’ch Contract Tenantiaeth a deall pa mor bwysig yw’ch cytundeb Contract Tenantiaeth. Ni sy’n gyfrifol am sicrhau ein bod yn buddsoddi yn eich cartref a’i fod mewn cyflwr da ac yn cadw at Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).

Fel tenant, rydych chi’n gyfrifol am y canlynol:

  • talu’ch rhent a thaliadau eraill yn brydlon
  • gofalu am eich cartref a’ch gardd
  • ymddwyn yn rhesymol fel na fyddwch yn tramgwyddo pobl eraill sy’n byw’n agos i chi
  • Mae rhagor o wybodaeth yn eich cytundeb Contract Tenantiaeth

Os hoffech chi gael cymorth i ddeall sut i reoli’ch Contract Tenantiaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.