At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

Tenantiaid Newydd

Croeso i Tai Sir Ddinbych.

Rydyn ni’n gobeithio’ch bod chi’n dechrau cael eich traed danoch yn barod yn eich cartref newydd. Gan eich bod yn denant newydd, bydd gennych Gontract Meddiannaeth Ddiogel. O fewn yr wythnosau a misoedd cyntaf yn eich cartref newydd, bydd y swyddog tai lleol yn galw heibio i gwrdd â chi, a rhoi ychydig o gyngor a gwybodaeth am ffyrdd i ofalu am eich Contract Tenantiaeth a’ch cartref.

Mae ragor o wybodaeth am eich Contract Rhentio, cyfeiriwch at eich cytundeb Meddiannaeth Ddiogel, a roddwyd i chi pan lofnodwyd eich Contract Rhentio, neu ewch drwy ein gwefan.