Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Fel tenant, rydym yn disgwyl i chi barchu’ch cymdogion a bod yn ystyriol ohonynt. Mae hawl gan bawb i fyw fel y mae’n dymuno, ar yr amod na fydd yn ymyrryd, yn aflonyddu, yn dychryn nac yn peri gofid i bobl sy’n byw yn ei ymyl, nac yn torri’r gyfraith. Bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu’n cael ei ystyried yn doriad ar eich Contract Tenantiaeth.

Diffiniad o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n cael ei ddefnyddio’n aml yw hwnnw yn Neddf Trosedd ac Anhrefn 1998:

‘Gweithredu mewn modd a oedd yn achosi neu a oedd yn debygol o achosi aflonyddu, dychryn neu ofid i un neu ragor o bersonau nad ydynt yn perthyn i’r un aelwyd â’r diffynnydd.’

Enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol

Diystyru llesiant cymunedol neu bersonol pobl eraill:

  • Cerddoriaeth yn cael ei chwarae’n uchel neu sŵn mawr o set deledu, radio, offerynnau cerddorol, ceir, cŵn yn cyfarth
  • Ymddygiad swnllyd h.y. gweiddi, rhegi, ymladd, clepian drysau etc
  • Ymddygiad sy’n achosi niwsans h.y. chwarae gemau pêl, taflu pethau o ffenestri, balconïau a rhodfeydd, gwneud gwaith ar y tŷ ar oriau anghymdeithasol etc.

Gweithredoedd wedi’u hanelu at bobl:

  • Bygwth ac aflonyddu h.y. cam-drin geiriol, bwlio, ymddygiad tramgwyddus, camdriniol a bygythiol, ystumiau bygythiol etc

Difrod amgylcheddol:

  • Difrod troseddol / fandaliaeth h.y. difrodi adeiladau, coed, planhigion, ysgrifennu graffiti etc.
  • Gadael sbwriel/gwastraff h.y. tipio, cŵn yn baeddu etc.

Camddefnyddio mannau cyhoeddus:

  • Camddefnyddio a delio mewn cyffuriau/sylweddau
  • Yfed ar y stryd
  • Cardota, puteindra, hel puteiniaid o gerbyd, a gweithgarwch anfoesol (gweithredoedd rhywiol)
  • Gadael ceir
  • Niwsans yn ymwneud â cherbydau a defnydd amhriodol o gerbydau h.y. parcio mewn lle anghyfleus, trwsio ceir yn y stryd/yr ardd, rasio ceir etc.

Am ragor o wybodaeth, mae'r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi canllaw i Ddiffinio a Mesur Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

Adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Byddwn yn rhoi cymorth a chyngor cyfrinachol i chi os byddwch yn rhoi gwybod am niwsans, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu aflonyddu. Byddwn yn edrych i mewn i’ch cwynion ac yn penderfynu pa gamau i’w cymryd.

I roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch wneud hyn ar-lein isod neu: