Caradoc Road

Cyflwyniad i’ch cartref newydd – Caradoc Road, Prestatyn

Croeso i’ch cartref newydd!

Mae’r canllaw byr hwn yn bwynt cyfeirio cyflym i’ch rhoi ar ben ffordd yn eich cartref newydd.

Ceir cyflwyniad byr isod ynghylch rhai o’r offer sydd gennych yn eich cartref, sy’n gweithio â’i gilydd i gynnig cartref Passivhaus sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon ar eich cyfer.

Golygfa flaen o'r tai a adeiladwyd yn Ffordd Caradoc, Prestatyn
Golygfa flaen o'r tai a adeiladwyd yn Ffordd Caradoc, Prestatyn

Beth yw Passivhaus?

Passivhaus yw’r enw a roddir ar safon adeiladu ynni isel i gartrefi. Mae’n golygu y gall eich cartref gael cylchrediad aer ardderchog trwy gydol y flwyddyn, gan arbed 80% ar wres a ddefnyddir. Mae’r mathau hyn o gartrefi yn hawdd byw ynddyn nhw ac nid oes angen llawer o waith cynnal a chadw os ydych yn gwybod sut i gael y gorau ohonynt. I wneud hyn, mae angen i ni esbonio rhai pethau pwysig i chi yn y canllawiau hyn.

Cartrefi Passivhaus:

  • Mae eu lefelau insiwleiddio aerdyn yn uchel iawn.
  • Maent yn defnyddio system awyru tŷ cyfan i helpu i gadw costau rhedeg yn isel.
  • Maent yn gyfforddus, yn iach ac yn gynaliadwy.
  • Mae eu ffenestri yn perfformio ar lefel uchel.
  • Mae safon yr aer y tu mewn iddynt yn ardderchog.

Manteisiwch i'r eithaf ar eich cartref

Dyma gyngor defnyddiol ar sut i fyw yn eich cartref newydd:

  • I gael y gorau allan o’ch paneli solar, ceisiwch ddefnyddio eich ynni yn ystod y dydd pan fo’r haul yn tywynnu. Ceisiwch ddefnyddio’ch trydan, h.y. peiriant golchi, ar ddiwrnodau heulog.
  • Cadwch eich ffenestri ar gau cymaint ag sy’n bosibl.
  • Ceisiwch ddefnyddio offer y cartref sy’n arbed ynni (cyfradd A) a bylbiau golau ynni isel.
  • Defnyddiwch y gawod yn hytrach na rhedeg bath cymaint â phosibl, mae hyn yn fwy effeithlon o ran defnydd ynni a dŵr.
  • Caewch y tapiau os nad ydych yn defnyddio’r dŵr.
  • Agorwch y bleindiau a’r llenni yn ystod y dydd yn y gaeaf.
  • Dylech bob amser gysylltu â ni ar 01824 706000 yn ystod oriau gwaith os ydych am wneud unrhyw newidiadau i’ch cartref. Fel hyn gallwn helpu i osgoi torri’r sêl ar eich cartref a’i wneud yn llai effeithlon.

Lle bo hynny’n bosibl, peidiwch â:

  • Agor neu gau’r tyllau awyru neu’r rhwyllau o amgylch eich cartref.
  • Gorchuddio neu gau bylchau o amgylch y drysau mewnol yn eich cartref. Mae’r rhain yno i helpu i gylchredeg aer o gwmpas y tŷ.

I’ch helpu i ymgartrefu yn eich cartref newydd, byddwn ni o gwmpas i roi cefnogaeth ac arweiniad yn ystod yr wythnosau a’r misoedd cyntaf.

Beth i'w ddisgwyl yn ystod yr ychydig wythnosau a misoedd cyntaf

Cyngor ar Effeithlonrwydd Ynni

Gwybodaeth, awgrymiadau a chyngor ar wresogi

Cwestiynau cyffredin

Gwybodaeth bellach

Dyma rai tudalennau gwe defnyddiol am fwy o gyngor a chefnogaeth:

Lawrlwythwch gopi o'r dudalen hon fel llyfryn: