Llwyn Eirin

Page contents


Mae Llwyn Eirin yn ddatblygiad newydd arloesol – y tai cyngor cyntaf i ni eu hadeiladu ers 30 o flynyddoedd!

Mae Llwyn Eirin yn ddatblygiad newydd arloesol – y tai cyngor cyntaf i ni eu hadeiladu ers 30 o flynyddoedd! Mae Llwyn Eirin wedi’i leoli yn Sir Ddinbych a bydd yn cynnwys 18 o dai pâr dwy a phedair ystafell wely ar rent cymdeithasol.

Mae’r tai carbon isel hyn, a fydd yn cael eu hadeiladu a’u hardystio i safon arbed ynni Passivhaus, yn rhan o darged y Cyngor i ddarparu 170 o dai cyngor newydd erbyn 2022. I gael gwybod mwy am y cartrefi arloesol hyn, cliciwch yma.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon wrth i’r prosiect symud yn ei flaen.

Llwyn Eirin artists impression of the planned street scene
Argraff artist Llwyn Eirin o'r olygfa stryd arfaethedig

Mathau o dai

Bydd y datblygiad cyffrous hwn yn cynnwys dau wahanol fath o dŷ pâr safon Passivhous.

Manyleb tŷ dwy ystafell wely

  • Tai 2 ystafell wely gyda chegin/ystafell fwyta ac ystafell fyw (dim nwyddau gwyn wedi’u cynnwys)
  • Toiled i lawr y grisiau
  • 2 ystafell wely
  • Ystafell ymolchi fawr gyda chawod drydan dros y bath
  • Bleindiau a gorchudd lloriau wedi’u cynnwys
  • System wresogi Passivhous
  • Llefydd parcio
  • Band Eang Ffeibr Cyflym iawn ar gael (cyflymder lawrlwytho <1Gbps)
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni – Gradd A (i'w gadarnhau)
  • Band Treth y Cyngor (i'w gadarnhau)
  • Tal Gwasanaeth (i'w gadarnhau)
  • Ar gael fis Gwanwyn 2022

Math 1: dwy ystafell wely

Cynllun llawr tŷ deulawr math 1, dwy ystafell wely gyda chegin/ystafell fwyta ac ystafell fyw.

Ground floor floorplan of a two bedroom type 1 house
Llawr Isaf
Llwyn Eirin two bedroom house - type 1 - first floor
Llawr Cyntaf

Math 2: dwy ystafell wely

Cynllun llawr tŷ deulawr math 2, dwy ystafell wely gyda chegin/ystafell fwyta ac ystafell fyw.

Ground floor floorplan of a two bedroom type 2 house
Llawr Isaf
First floor floorplan of a two bedroom type 2 house
Llawr Cyntaf

Math 3: dwy ystafell wely

Cynllun llawr tŷ deulawr math 3, dwy ystafell wely gyda chegin/ystafell fwyta ac ystafell fyw.

Ground floor floorplan of a two bedroom type 3 house
Llawr Isaf
First floor floorplan of a two bedroom type 3 house
Llawr Cyntaf

Math 4: dwy ystafell wely

Cynllun llawr tŷ deulawr math 4, dwy ystafell wely gyda chegin/ystafell fwyta ac ystafell fyw.

Ground floor floorplan of a two bedroom type 4 house
Llawr Isaf
First floor floorplan of a two bedroom type 4 house
Llawr Cyntaf

Manyleb tŷ pedair ystafell wely:

  • 4 ystafell wely gyda chegin ac ystafell fyw/ystafell fwyta (dim nwyddau gwyn wedi'u cynnwys)
  • Toiled i lawr y grisiau
  • 4 ystafell wely
  • Ystafell ymolchi fawr ar y llawr cyntaf gyda chawod drydan dros y bath
  • Toiled ar yr ail lawr
  • Bleindiau a gorchuddion llawr wedi’u cynnwys
  • System Wresogi Passivhaus
  • Llefydd parcio.
  • Band Eang Ffeibr Cyflym iawn ar gael (cyflymder lawrlwytho <1Gbps)
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni – Gradd A (i'w gadarnhau)
  • Band Treth y Cyngor (i'w gadarnhau)
  • Tal Gwasanaeth (i'w gadarnhau)
  • Ar gael fis Gwanwyn 2022

Math 1: pedair ystafell wely

Cynllun llawr tŷ tri llawr math 1, pedair ystafell wely gyda chegin ac ystafell fyw/ystafell fwyta.

Ground floor floorplan of a four bedroom type 1 house
Llawr Isaf
First floor floorplan of a four bedroom type 1 house
Llawr Cyntaf
Second floor floorplan of a four bedroom type 1 house
Ail Lawr

Math 2: pedair ystafell wely

Cynllun llawr tŷ tri llawr math 2, pedair ystafell wely gyda chegin ac ystafell fyw/ystafell fwyta.

Ground floor floorplan of a four bedroom type 2 house
Llawr Isaf
First floor floorplan of a four bedroom type 2 house
Llawr Cyntaf
Second floor floorplan of a four bedroom type 2 house
Ail Lawr

Cynllun y Safle

Llun o gynllun ystâd cul-de-sac ar gyfer 22 o gartrefi pâr gyda ffordd ar ystâd Llwyn Eirin.

  • Glas = 4 gwely
  • Melyn = 2 wely
Illustrative image of the Llwyn Eirin site plan
Cynllun y Safle
Yn cyflwyno Llwyn Eirin, ein cartrefi cyngor cyntaf ers 30 o flynyddoedd

Diweddariadau Cymunedol

Ymwadiad

Nodwch os gwelwch yn dda fod y lluniau a ddangosir i ddibenion enghreifftiol yn unig ac ni fydd unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y ddogfen hon yn ffurfio unrhyw ran o gytundeb. Mae’r holl fesuriadau a roddwyd yn rhai bras.