Llys Llên

Cyflwyniad i’ch cartref Newydd - Llys Llên,Yr Hen Lyfrgell, Prestatyn

Croeso i’ch cartref newydd! Mae’r canllaw byr hwn yn bwynt cyfeirio cyflym i’ch rhoi ar ben ffordd yn eich cartref newydd. Ceir cyflwyniad byr isod ynghylch rhai o’r offer sydd gennych yn eich cartref, sy’n gweithio gyda’i gilydd i wneud eich cartref yn fwy ynni’n fwy effeithlon.

Argraff arlunydd o ddatblygiad Llys Llên ym Mhrestatyn
Argraff arlunydd o ddatblygiad Llys Llên ym Mhrestatyn

Paneli Solar

Newyddion gwych, mae paneli solar wedi’u gosod ar do eich cartref ac mae gennych fatris. Sut mae hyn i gyd yn gweithio?

  • Paneli solar – Mae’r rhain yn creu cerrynt uniongyrchol, ac ynni solar, sy’n cael ei anfon at y gwrthdroydd hybrid.
  • Gwrthdroydd hybrid – Mae’r rhain yn trosi’r cerrynt uniongyrchol i gerhyntau eiledol, ynni, sydd yn cael ei ddefnyddio i bweru’r offer trydanol yn eich cartref. Bydd angen mynediad at WiFi ar y gwrthdroydd hybrid.
  • Batri – Os oes ynni dros ben nad yw eich cartref yn ei ddefnyddio, bydd y gwrthdroydd hybrid yn anfon cerrynt uniongyrchol i’r batri i’w wefru.

Os nad oes digon o ynni solar yn cael ei gynhyrchu, bydd y batri yn cael ei ddefnyddio i bweru’ch cartref nes bod dim ynni ar ôl ynddo.

Os nad oes ynni solar nac ynni ar ôl yn eich batri, byddwch yn defnyddio / talu am drydan o’r grid. Fel y byddech yn ei wneud yn flaenorol.

Ar ddiwrnodau heulog, bydd eich paneli solar yn cynhyrchu trydan, y gallwch ei ddefnyddio yn ystod y dydd, gan leihau eich biliau trydan. Mae gennych fatris hefyd, sy’n storio ynni na ddefnyddiwyd, felly gallwch ei ddefnyddio ar adegau eraill o’r dydd. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth iddynt.

Os ydych chi’n credu nad yw eich paneli solar yn gweithio’n dda, cysylltwch â ni.

Pympiau Gwres o’r Ddaear

Nid oes cyflenwad nwy yn eich cartref gan ei fod yn rhedeg ar bwmp gwres o’r ddaear. Beth yw Pwmp Gwres o’r Ddaear? Sut mae’n gweithio?

Mae’ch system wresogi newydd yn cael ei phweru gan bwmp gwres o’r ddaear Kensa sy’n hynod effeithlon ac sy’n cyflenwi 100% o anghenion gwresogi a dŵr poeth eich eiddo gyda gwres cynaliadwy o’r ddaear.

Mae rhwydwaith o ddyfrdyllau wedi’u drilio yn y tir o amgylch eich eiddo, sy’n aros ar dymheredd cyson trwy gydol y flwyddyn.

Mae’r dyfrdyllau yn echdynnu’r gwres adnewyddadwy hwn a’i fwydo i mewn i’r pwmp gwres, sy’n defnyddio trydan i grynodi’r gwres i godi ei dymheredd a’i bwmpio o amgylch eich tŷ.

Mae pympiau gwres o’r ddaear deirgwaith yn fwy effeithlon na bwyler nwy, gyda phob 1kW o drydan yn cynhyrchu 3-4kW o wres. Mae hyn yn golygu bod cyfran fawr o’r gwres a ddefnyddiwch yn dod o’r ddaear am ddim.

Nid oes angen gwasanaethu’r pwmp gwres o’r ddaear yn barhaus, ac mae’n eithriadol o gadarn a dibynadwy ac wedi’i ddylunio i bara am 25 mlynedd.

I ganfod mwy am bympiau gwres o’r ddaear, gwyliwch fideo Kensa ar-lein ar: https://www.youtube.com/KensaHeatPumps

Beth i’w ddisgwyl yn yr wythnosau a’r misoedd cyntaf

Cyngor cyffredinol

  • Ceisiwch ddefnyddio offer y cartref sy’n arbed ynni (cyfradd A) a bylbiau golau ynni isel.
  • Caewch y tapiau os nad ydych yn defnyddio’r dŵr.
  • Agorwch y bleindiau a’r llenni yn ystod y dydd yn y gaeaf.
  • Peidiwch â gorchuddio’r rheiddiaduron gyda gwrthrychau fel bagiau, gan y bydd hyn yn atal y gwres rhag cylchredeg o amgylch yr ystafell.
  • Dylech osgoi defnyddio llenni hir sy’n gorchuddio’r rheiddiaduron.
  • Byddwn yn trefnu bod eich system MVHR, paneli solar a’r cyfnewidiwr gwres o’r aer yn cael eu gwasanaethu’n flynyddol.
  • Siopwch o gwmpas am ddarparwr ynni – mae gan wahanol gyflenwyr wahanol gynigion.
  • Gwnewch newidiadau tymhorol i gael y gorau o’ch system wresogi. Er enghraifft, yn ystod tywydd cynnes meddyliwch a oes angen i’r gwres fod ymlaen.
  • Dylech bob amser gysylltu â ni ar 01824 706000 yn ystod oriau gwaith os ydych am wneud unrhyw newidiadau i’ch cartref.

Lle bo hynny’n bosibl, peidiwch â:

  • Gorchuddio neu gau bylchau o amgylch y drysau mewnol yn eich cartref. Mae’r rhain yno i helpu i gylchredeg aer o gwmpas y tŷ.

Manteisio i'r eithaf ar fyw yn ein cartref newydd

Cyngor ac awgrymiadau ar gyfer gwresogi

Effeithlonrwydd Ynni

Cwestiynau Cyffredin:

Gwybodaeth bellach

Dyma rai tudalennau gwe defnyddiol am fwy o gyngor a chefnogaeth:

Lawrlwythwch gopi o'r dudalen hon fel llyfryn: