Hawl i brynu

Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018

Fel y gwyddoch chi efallai, mae pedwar Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi atal yr Hawl i Brynu ar hyn o bryd ac un o’r rhain yw Sir Ddinbych. Cawsom ganiatâd i atal yr hawl o 18 Tachwedd 2016 am 5 mlynedd. Roeddem wedi ysgrifennu at holl denantiaid cymwys Gyngor Sir Ddinbych ym Mawrth 2016 am ein bwriad i wneud hyn.

Ymhellach i atal yr hawl, rwyf yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu bod Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr 2018.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio dogfen o’r enw “Gwybodaeth am derfyn yr Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael yng Nghymru”. Mae copi ar gael ar wefan denbighshire.gov.uk a hefyd ar wefan Llywodraeth Cymru. Os hoffech chi gael copi, byddem yn falch o anfon copi atoch yn Gymraeg neu Saesneg ar eich cais.

Os oes arnoch chi angen rhagor o wybodaeth am y mater hwn, cysylltwch â ni rhag blaen.