Mae datblygiad o 22 o gartrefi ynni-effeithlon yn Ninbych bron â chwblhau, gyda thenantiaid y cartrefi newydd i symud i mewn cyn bo hir.
Mae datblygiad Llwyn Eirin yn rhan o Raglen Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Ddinbych, sy’n helpu i ddarparu cartrefi newydd ar draws y sir. Ymhlith cynlluniau diweddar eraill yn y dref mae safle cyn Fflatiau Pennant (Grŵp Cynefin), y datblygiad yn Rhodfa Cae Llewelyn ger Ysgol Pendref (Adra), a datblygiad Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn (Grŵp Cynefin) sydd, ynghyd â Llwyn Eirin, yn darparu cyfanswm o 193 o gartrefi fforddiadwy newydd i bobl leol.
Mae cartrefi Llwyn Eirin wedi’u hadeiladu yn unol â safon hynod ynni-effeithlon Passivhaus. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i gynyddu nifer y tai cyngor sydd ar gael yn Sir Ddinbych.
Mae’r datblygiad yn cael ei ddefnyddio fel cyfle dysgu gwerthfawr i lywio cynlluniau adeiladu newydd a chynlluniau ôl-osod yn y dyfodol ar draws y sir, gan gyfrannu at ein hymgyrch barhaus i gyflawni gwres fforddiadwy mewn tai cyngor. Yn ogystal, byddwn yn ymgysylltu â thenantiaid newydd i sicrhau y gallant fanteisio’n llawn ar ddyluniad a thechnoleg yr adeiladau er mwyn lleihau costau gwresogi.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Dai a Chymunedau:
“Bydd y cartrefi hyn yn helpu i ddiwallu anghenion tai trigolion lleol drwy ddarparu eiddo o ansawdd uchel ac am bris fforddiadwy. Wedi’u hadeiladu i’r safonau uchaf o ran inswleiddio, maent yn sicrhau effeithlonrwydd ynni, yn lleihau biliau cartref, ac yn torri allyriadau carbon – gan helpu i warchod cenedlaethau’r dyfodol drwy leihau’r dibyniaeth ar danwydd ffosil.”
Mae gan bob eiddo baneli solar a phympiau gwres o’r ddaear i ddarparu gwres naturiol heb fod angen cyflenwad nwy.
Mae Rhaglen Dai Arloesol Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i alluogi’r Cyngor i weithio mewn partneriaeth â Creating Enterprise, sydd wedi’i leoli yn Y Rhyl, ar y dull arloesol hwn o ddefnyddio cydrannau pren wedi’u cyn-gynhyrchu wrth adeiladu tai.
Enwyd y datblygiad yn Llwyn Eirin er anrhydedd i Eirin Dinbych, un o gynnyrch hynaf ac enwocaf Dyffryn Clwyd. Mae’r enw’n adlewyrchu treftadaeth Dinbych ac ar yr un pryd yn tynnu sylw at ymrwymiad y Cyngor i gynyddu bioamrywiaeth ar draws y sir.
