At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

Llys Llên - Tai Cyngor newydd sy’n effeithlon o ran ynni’n barod i groesawu tenantiaid

Mae datblygiad canol tref Prestatyn yn croesawu tenantiaid i’r tai Cyngor newydd sy’n effeithlon o ran ynni.

Mae’r gwaith wedi’i gwblhau ar ddatblygiad Llys Llên ar safle’r hen Lyfrgell yn y dref. Mae datblygiad Tai Sir Ddinbych yn cynnwys 14 o fflatiau un ystafell wely sy’n effeithlon o ran ynni a dwy uned nad ydynt yn unedau preswyl ar y llawr gwaelod.

Mae’r tenantiaid yn awr yn paratoi i symud i’r fflatiau sydd wedi’u hadeiladu i fod yn dra effeithlon o ran eu defnydd o ynni er mwyn lleihau pwysau costau byw ar ein tenantiaid yn ogystal â helpu Sir Ddinbych a Chymru i gyrraedd eu targedau di-garbon net.

Mae pympiau gwres o’r ddaear yn darparu system wresogi am gostau is ac yn gwella effeithlonrwydd ynni’r cartrefi yn y datblygiad. Ochr yn ochr â hyn, mae paneli solar gyda batris storio ynni wedi’u gosod sy’n cyfrannu at leihau ôl-troed carbon y datblygiad a gostwng costau ynni pob cartref. Mae gan bob fflat gawod gyda mynediad gwastad a mynediad at lifft.

Mae’r cartrefi newydd hyn yn rhan o ymrwymiad Cyngor Sir Ddinbych i barhau i fynd i’r afael â’r amseroedd aros am lety drwy fynd i’r afael â’r angen am ragor o gyflenwad tai lleol.

Meddai’r Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Rydym yn falch o gael yr allweddi i’r datblygiad gwych yng nghanol tref Prestatyn a fydd yn darparu cartrefi gwych i denantiaid. Mae’r Cyngor hefyd yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth ein partneriaid sydd wedi helpu i wireddu’r safle hwn.

“Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod yna gartrefi ar gael yn Sir Ddinbych i ddiwallu anghenion ein trigolion. Mae’r fflatiau newydd hyn yn diwallu’r anghenion hyn drwy ddarparu llety o ansawdd sydd nid yn unig yn fforddiadwy ond hefyd wedi’u hadeiladu hyd y safonau uchaf i helpu i leihau’r defnydd o ynni ac allyriadau carbon a gostwng biliau’r cartref.”

Adeiladau a fflatiau wedi eu cwblhau ym mhrosiect Llys Llên, Prestatyn