Mae gwaith wedi dechrau ar bedwar fflat effeithlon o ran ynni ym Mhrestatyn

Mae Tai Sir Ddinbych wedi dechrau adeiladu pedwar fflat un ystafell wely ar safle hen ffreutur Ysgol Bodnant ar Ffordd Caradoc.

Mae’r fflatiau carbon isel, a fydd yn cael eu hadeiladu a’u hardystio i safon arbed ynni Passivhaus, yn rhan o darged y Cyngor i ddarparu 170 yn fwy o dai cyngor erbyn 2022 ac mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhan o’r gwaith adeiladu drwy ei Raglen Tai Arloesol.

Artists impression of the housing development for energy efficient apartments in Prestatyn
Argraff arlunydd o'r datblygiad tai ar gyfer fflatiau effeithlon o ran ynni ym Mhrestatyn

Peter T Griffiths Building Contractors o ogledd Cymru sydd yn ymgymryd â’r gwaith a ddechreuodd ar 25 Ionawr, ac mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi.

Meddai’r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r Cyngor yn falch iawn bod gwaith wedi dechrau ar y tai cyngor newydd hyn, ac rydym yn falch o fod yn gweithio gyda’n partneriaid ar y prosiect hwn.

“Mae sicrhau bod yna dai ar gael i ddiwallu anghenion trigolion Sir Ddinbych yn flaenoriaeth o dan ein Cynllun Corfforaethol.

“Bydd y cartrefi hyn yn helpu i ddiwallu’r anghenion o ran tai i drigolion drwy ddarparu cartrefi o ansawdd sy’n fforddiadwy yn ogystal â chynnig y lefelau uchaf o inswleiddiad i ddefnyddio llai o ynni ac arbed ynni i leihau allyriadau carbon a biliau’r cartref.

“Byddwn yn monitro lefelau sŵn, llwch a dirgryniad trwy gydol y gwaith i sicrhau nad ydym yn torri’r canllawiau, ac fe hoffem ddiolch i breswylwyr am eu dealltwriaeth tra bod y gwaith yn cael ei wneud.”

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James: “Mae hi’n wych gweld y gwaith yn dechrau ar y cartrefi arloesol yma. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ac sy’n gynaliadwy. Mae’r cartrefi yma ym Mhrestatyn yn enghraifft gwych o’r ymrwymiad yma, a bydd o fudd i bobl leol trwy ddarparu cartref diogel, carbon isel, ac yn fwyaf pwysig, yn fforddiadwy.”

Nodyn i olygyddion: Ynghlwm y mae delweddau artist o’r fflatiau