At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

Chi a’ch Arian

Gyda’r newidiadau diweddar yn y ffordd o dalu budd-daliadau, y cynnydd ym miliau’r cartref a newidiadau mewn amgylchiadau personol, rydym ar gael i’ch helpu. Gallwn roi cyngor a chymorth i chi ar y ffordd i reoli’ch arian.

Beth wnawn ni i chi:

  • Byddwn yn rhoi rhybudd o 8 wythnos o leiaf i chi drwy lythyr os bydd unrhyw newidiadau yn eich rhent a/neu unrhyw daliadau eraill, yn cynnwys y tâl gwasanaeth.
  • Gallwch ofyn am y datganiad rhent diweddaraf, ar ben y 4 datganiad y byddwn yn eu hanfon atoch bob blwyddyn.
  • Os byddwn yn casglu unrhyw daliadau, yn ychwanegol i’r tâl gwasanaeth, h.y. nwy, trydan, cymorth tenantiaeth, carthffosiaeth, tanc septig, consesiynau etc yn rhan o’ch cyfanswm rhent, byddwn yn eu talu i’r sefydliadau priodol.

Beth fydd angen i chi ei wneud:

  • Talu’ch rhent ac unrhyw daliadau gwasanaeth yn brydlon.
  • Os ydych yn cael help gan wasanaethau cymorth, rydych yn cytuno i dalu amdanynt yn uniongyrchol.
  • Os na fyddwch yn talu’ch rhent neu daliadau gwasanaeth, byddwn yn trafod cynllun talu ac opsiynau eraill â chi.
  • Os oes gennych Contract Tenantiaeth, chi sy’n gyfrifol am dalu’r holl rent a thaliadau eraill, yn cynnwys ôl-ddyledion.