At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

Mynd ar-lein

Mewn byd sy’n newid, lle mae popeth yn mynd ar-lein, mae’n bwysig bod cyfrifiaduron ar gael ei chi eu defnyddio, eich bod yn teimlo’n hyderus am fynd ar-lein, a’ch bod yn gallu datblygu’ch sgiliau digidol er mwyn cael y fantais fwyaf o gynhyrchion digidol.

Rydyn ni’n gweithio gydag OPUS a sefydliadau eraill i ddysgu sut y gallwn eich helpu i feithrin sgiliau cyfrifiadur, i fynd ar-lein a chael cymorth gennyn ni. Mae cyfrifiaduron ar gael i chi am ddim sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd a Wi-Fi yn yr holl lyfrgelloedd yn Sir Ddinbych.

Gwasanaethau llyfrgell digidol

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth digidol a mynd ar-lein, cysylltwch â’r Swyddog Tai.

Beth am ein dilyn ni ar Facebook neu Instagram a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau.