At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

Sut i reoli’ch biliau misol

Os ydych chi’n ei chael yn anodd delio â’ch biliau misol, siaradwch â ni. Bydd aelod o’n tîm yn gallu siarad â chi am:

  • gyngor ar gyllidebu a rhoi enghreifftiau i chi o ffyrdd i gyllidebu’n well, yn cynnwys offer cyllidebu sydd ar gael gan Cyngor Ar Bopeth
  • eich cyfeirio at wefannau defnyddiol i gael rhagor o wybodaeth a’ch helpu i gael cymorth ychwanegol fel banciau bwyd, gwasanaeth cynghori ariannol, iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol etc.

Cofiwch, rydyn ni ar gael i siarad â chi a chynnig help.

Dyma rai gwefannau defnyddiol:

Er mwyn trafod sut y gallwn eich helpu, cysylltwch â ni ar-lein neu ffoniwch ni ar 01824 706000.