Llys Elizabeth, Y Rhyl

Cyflwyniad i’ch cartref Newydd – Llys Elizabeth, Y Rhyl

Croeso i’ch cartref newydd! Mae’r canllaw byr hwn yn bwynt cyfeirio cyflym i’ch rhoi ar ben ffordd yn eich cartref newydd. Ceir cyflwyniad byr isod ynghylch rhai o’r offer sydd gennych yn eich cartref, sy’n gweithio gyda’i gilydd i wneud eich cartref yn fwy ynni’n fwy effeithlon.


Mae’r cyflenwad nwy yn eich cartref ar gyfer y system wresogi yn unig. Mae’ch dŵr yn cael ei gynhesu drwy wresogydd dŵr trydan. 

Mae’r system Awyru Mecanyddol gydag Adferiad Gwres (MVHR – Mechanical Ventilation and Heat Recovery) yn darparu awyr iach wedi’i hidlo i mewn i’ch cartref, gan geisio cadw’r rhan fwyaf o’r ynni sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio i wresogi’ch cartref. Gan wneud eich cartref yn adeilad ynni isel o ansawdd uchel. Mae’r system yn gwbl awtomatig ac nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. 

I’ch helpu i ymgartrefu yn eich cartref newydd, byddwn ni o gwmpas i roi cefnogaeth ac arweiniad yn ystod yr wythnosau a’r misoedd cyntaf.  Gallwch ddisgwyl:

Wythnos gyntaf:

  • Byddwn yn eich helpu i ymgartrefu yn eich cartref a’ch cymuned newydd.
  • Cymerwch amser i ddarllen drwy’r canllawiau hyn a’r fersiwn lawn ar-lein, a dod i ddeall sut i fyw yn eich cartref yn y ffordd fwyaf effeithlon.  
  • Cysylltwch os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw beth.

Ail wythnos:

  • Ar ôl i chi ymgartrefu, bydd aelod o’n tîm yn eich ffonio i drefnu ymweliad ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Wrth gwrs, os oes unrhyw beth brys, cysylltwch cyn hynny.

1 Mis:

  • Bydd aelod o’n tîm atgyweirio a chynnal a chadw, a’ch swyddog tai yn ymweld â chi i wirio bod popeth yn iawn.

3 Mis:

  • Bydd aelod o’n tîm yn dod i ddarllen eich mesuryddion a dangos i chi sut i wneud hynny.
  • Byddwn yn anfon e-bost a neges destun gyda ffurflen adborth i weld sut ydych yn ymgartrefu, a chanfod a oes unrhyw beth y gallem ei wneud yn well.

6 Mis:

  • Bydd eich swyddog tai yn dod i weld sut ydych yn ymgartrefu.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Byddwn yn galw heibio i wirio eich cartref gan edrych ar:
    • Sut rydych chi wedi ymgartrefu yn eich cartref.
    • Oes yna graciau crebachu sydd angen eu trwsio.
    • Cael adborth gennych chi am eich blwyddyn gyntaf yn eich cartref a gofyn a hoffech gymryd rhan mewn stori ar gyfer y papurau newydd lleol a’n newyddlen i denantiaid. 

Cyngor o ddydd i ddydd ar sut i gael y gorau allan o fyw yn eich cartref newydd


Daw eich dŵr poeth o’r silindr dŵr poeth yn y cwpwrdd yn y gegin. Mae’ch boeler nwy yn yr uned wal yn y gegin.

Mae’r rhaglennydd dŵr peth yn eich ystafell fyw ac yn edrych fel hyn: 

Bydd eich rhaglennydd yn anfon signal i’r boeler yn dibynnu ar dymheredd eich cartref. Os yw eich cartref yn mynd yn rhy boeth, bydd yn anfon signal i’r boeler i ddiffodd y gwres a bydd yn troi ymlaen pan fydd eich tŷ yn mynd yn rhy oer. Mae’r thermostat fel arfer yn cael ei osod rhwng 18ºC a 21ºC.

Mae’r amserydd neu’r rhaglennydd yn eich helpu i reoli pryd mae’ch gwres yn dod ymlaen ac yn diffodd.

Trwy ei raglennu, gallwch wneud yn siŵr ei fod yn gweithio yn y ffordd fwyaf addas i chi a’ch cartref.

Dyma awgrym ar sut i wresogi’ch cartref:

  • Gosodwch y rhaglen fel bod eich gwres yn dod ymlaen hanner awr cyn i chi:
    • godi yn y bore
    • dod adref
    • mynd i’r gwely neu fynd allan

Fel arfer bydd cartref yn cymryd hanner awr i gynhesu ac oeri. Trwy wneud hyn, dylai’ch cartref fod yn gynnes heb wastraffu ynni. 

Dyma ddolen i wefan y gwneuthurwr, sydd â chyfarwyddiadau llawn a chanllawiau defnyddio dan yr adran ‘Manuals & Brochures’.

https://www.worcester-bosch.co.uk/products/boiler-controls/directory/greenstar-comfort-ii-rf-1

Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, gadewch i ni wybod a gallwn drefnu bod rhywun yn galw heibio i ddangos sut mae popeth yn gweithio. 

  • Ceisiwch ddefnyddio offer y cartref sy’n arbed ynni (cyfradd A) a bylbiau golau ynni isel
  • Caewch y tapiau os nad ydych yn defnyddio’r dŵr
  • Agorwch y bleindiau a’r llenni yn ystod y dydd yn y gaeaf
  • Peidiwch â gorchuddio’r rheiddiaduron gyda gwrthrychau fel bagiau, gan y bydd hyn yn atal y gwres rhag cylchredeg o amgylch yr ystafell
  • Dylech osgoi defnyddio llenni hir sy’n gorchuddio’r rheiddiaduron
  • Byddwn yn trefnu bod eich system MVHR, a’ch cyfnewidiwr gwres yn cael eu gwasanaethu’n flynyddol
  • Siopwch o gwmpas am ddarparwr ynni – mae gan wahanol gyflenwyr wahanol gynigion
  • Gwnewch newidiadau tymhorol i gael y gorau o’ch system wresogi. Er enghraifft, yn ystod tywydd cynnes meddyliwch a oes angen i’r gwres fod ymlaen
  • Dylech bob amser gysylltu â ni ar 01824 706000 yn ystod oriau gwaith os ydych am wneud unrhyw newid i’ch cartref

Lle bo hynny’n bosibl, peidiwch â:

Gorchuddio neu gau bylchau o amgylch y drysau mewnol yn eich cartref. Mae’r rhain yno i helpu i gylchredeg aer o gwmpas y tŷ.


Cyngor ac awgrymiadau ar gyfer gwresogi


Ceisiwch ostwng eich thermostat gradd neu ddau – efallai nad yw hynny’n swnio’n llawer, ond bydd newid bach fel hyn yn cael effaith enfawr ar eich biliau. Yn amlwg, peidiwch â’i ostwng i bwynt ble mae’ch ystafell yn teimlo’n oer, ond trwy droi eich thermostat i lawr 1 gradd gallech arbed tua 10% ar eich bil ynni blynyddol. Mae hefyd yn eithriadol o bwysig nad ydych yn gosod eitemau dros eich thermostat fel cotiau neu gelfi.

Gofalwch bod gosodiadau’r amserydd ar eich rheolydd yn gywir. Edrychwch ar amserlen eich cartref a phryd y bydd angen iddo fod yn gynnes, yna gosodwch yr amserwyr yn unol â hynny – er enghraifft, cyn i chi ddeffro neu ar ôl i chi orffen gwaith. Nid oes angen i’r gwres fod ymlaen pan nad ydych yn ei ddefnyddio.

Trwy greu amserlen a gosod eich pwmp gwres i gynhesu dŵr ar wahanol amser i’ch system wresogi, byddwch yn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o ddŵr poeth ar gyfer eich anghenion.

Diffoddwch y gwres neu trowch y gwres i lawr i’r gosodiad diogelu rhag rhew yn yr ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio. Trwy addasu’r tymheredd ym mhob ystafell, byddwch yn cael mwy o reolaeth dros eich system wresogi a faint o ynni yr ydych yn ei ddefnyddio.

Pan fyddwch yn gwresogi’r ystafelloedd sydd angen eu gwresogi yn unig, gofalwch eich bod yn cadw drysau mewnol ar gau fel nad yw’r gwres yn dianc allan i weddill y tŷ.

Peidiwch â dal gwres yn eich rheiddiaduron. Gofalwch nad oes llenni na chelfi yn atal gwres rhag mynd i mewn i’r ystafell. Codwch eich llenni ar y silff ffenestr os oes angen a thynnwch eich soffa ymlaen.

Mae falfiau thermostatig wedi’u gosod ar eich rheiddiaduron i’ch galluogi i reoli’r tymheredd mewn ystafelloedd unigol. Mae rhifau o 1 i 5 ar y falfiau sy’n cyfateb i dymheredd yr ystafell.

Rydym yn argymell gwneud newidiadau bach bob dydd nes i chi ddod o hyd i’r tymheredd gorau i chi; rydym yn awgrymu dechrau ar rif 2-3 mewn ystafelloedd gwely, yn y cyntedd a’r gegin, a 3-5 yn y lolfa a’r ystafell ymolchi.

Mae rheiddiaduron yn mynd yn boeth ac felly maent yn denu llwch a baw fel magnet os nad ydynt yn cael eu glanhau. Gall y baw sy’n casglu fod yn sylweddol. Gall rheiddiaduron budr iawn fod yn llai effeithlon na rhai glân, gan wneud i’ch system ddefnyddio mwy o ynni i gynhesu’r ystafell, a bydd hynny’n cael ei adlewyrchu mewn biliau ynni uwch.

Ceisiwch lanhau’r esgyll darfudol yn rheolaidd - sef y rhigolau igam-ogam sy’n rhedeg i lawr cefn y rheiddiadur (a’r blaen). Gellir gwneud hyn gyda brwsh rheiddiadur coes hir neu trwy redeg blaen chwistrell eich sugnwr llwch ar hyd y top a’r gwaelod.


Effeithlonrwydd Ynni

Wrth i filiau ynni godi, dyma ychydig o gyngor ac awgrymiadau ar bethau y gallwch eu gwneud i helpu:


  • Gofalwch eich bod yn defnyddio sosban y maint cywir ar gyfer y bwyd a’r hob
  • Gofalwch eich bod yn gosod y caead ar y sosban i gadw’r gwres i mewn
  • Wrth ferwi llysiau a phasta, dylech ddefnyddio digon o ddŵr i’w gorchuddio yn unig
  • Mae popty microdon yn fwy effeithlon o ran ynni na phopty traddodiadol, felly defnyddiwch bopty microdon lle bo hynny’n bosibl, ond cofiwch ei ddiffodd yn y wal pan nad ydych yn ei ddefnyddio
  • Coginiwch lawer o fwyd ar unwaith pan ydych yn defnyddio’ch popty traddodiadol. Gallwch rewi bwyd i’w gynhesu rywbryd eto a gallai hynny arbed amser i chi hefyd
  • Mae bwydydd wedi’u torri yn ddarnau llai yn coginio’n gynt ac yn arbed amser
  • Gofalwch bod y cylchoedd pentan ar y popty yn lân gan fod bwyd wedi llosgi yn amsugno gwres ac yn gwneud y cylch yn llai effeithlon

  • Dylech ddadrewi eich oergell a’ch rhewgell yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio mor effeithlon ag sy’n bosibl ac i atal iâ rhag casglu. Darllenwch y canllawiau defnyddio ar gyfer eich offer i gael mwy o gyngor yn ôl yr angen
  • Os yw eich oergell a’ch rhewgell yn llawn, nid ydynt yn gorfod gweithio mor galed a byddant yn defnyddio llai o ynni
  • Gofalwch fod bwyd wedi oeri cyn i chi ei roi yn yr oergell neu’r rhewgell

  • Gofalwch eich bod yn rhoi llwythi llawn ac nid hanner llawn ymlaen
  • Pan fo’n bosibl, defnyddiwch raglen arbed ynni ar eich peiriant golchi
  • Sychwch eich dillad yn yr awyr agored pan fo hynny’n bosibl, a pheidiwch â rhoi dillad ar y rheiddiadur i sychu. Mae hyn yn cynyddu lefelau anwedd yn yr aer yn eich cartref ac yn cynyddu’r risg o falltod du
  • Manteisiwch ar y trydan sy’n cael ei gynhyrchu gan eich paneli solar a defnyddiwch offer y cartref yn ystod y dydd (yn enwedig ar ddyddiau heulog)

  • Gofalwch bod offer y cartref yn cael eu diffodd yn y wal pan nad ydych yn eu defnyddio gan fod rhai offer yn dal i ddefnyddio ynni ar ôl gwasgu’r botwm cysgu (stand-by)
  • Defnyddiwch fylbiau golau arbed ynni o amgylch eich cartref, a gofalwch eich bod yn diffodd y golau pan nad ydych yn yr ystafell

Cwestiynau Cyffredin


Nid oes gan eich cartref chi system wresogi arferol. Am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, ni ddylai fod angen i chi droi’r gwres ymlaen. Bydd y ffenestri a’r deunydd insiwleiddio yn helpu i gadw’r gwres i mewn.

Yn y gaeaf, pan nad yw’n heulog y tu allan, efallai y bydd angen i chi ychwanegu gwres.

Gallwch raglennu eich system wresogi a dŵr poeth i droi ymlaen a diffodd hyd at dair gwaith y dydd.

Mae mesurydd wedi’i osod yn eich cartref. Rydym wedi cofrestru eich mesurydd nwy gyda Nwy Prydain. Os ydych yn dymuno newid darparwr, cysylltwch â’ch cyflenwr ynni dewisedig.

Gallwch agor ffenestri, ond nid oes angen i chi eu hagor i gael awyr iach. Mae system awyru’r tŷ yn gwneud hyn i chi trwy gael aer o’r awyr agored. Mae gan y ffenestri wydr triphlyg felly os ydych yn eu cadw ar gau, bydd eich cartref yn aros yn dawel ac yn gynnes. Mae’r system MVHR yn gweithio’n well os yw eich ffenestri a’ch drysau ar gau. 

Yn ystod tywydd sych, gallwch sychu eich dillad y tu allan. Os ydych chi’n syllu dillad yn y tŷ, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r hors ddillad yn yr ystafell ymolchi a chau’r drws. Bydd y dŵr mewn dillad gwlyb yn mynd allan o’ch tŷ drwy’r system MVHR a bydd aer sych yn dod i mewn yn ei le. Peidiwch â rhoi dillad gwlyb ar reiddiaduron i sychu.

Bydd eich system wresogi wedi’i gosod rhwng 16 a 22 gradd, ond gallwch addasu’r tymheredd fel y mynnoch. 

Mae eich system MVHR yn gallu diffodd y gosodiad adfer gwres pan fo’r tymheredd yn oerach y tu allan na’r tu mewn.

Yn ystod tywydd cynnes, mae’n bwysig eich bod yn byw mewn tymheredd cyfforddus. Wrth i’r tymheredd ostwng y tu allan gyda’r nos, rydym yn awgrymu y dylech agor eich ffenestri i adael aer cynnes allan, a gadel aer oer i mewn.

Mae eich system MVHR yn hidlo anwedd ac arogleuon o’ch cartref gan gynnwys arogleuon coginio a stêm o’r bath neu’r gawod. Mae’n golygu nad yw arogleuon drwg yn aros o gwmpas ac mae’n lleihau anwedd a llwydni.

Os caiff ei adael heb ei drin, gall lleithder ac anwedd arwain at lwydni. Er mwyn helpu i leihau hyn yn eich cartref:

  • Os oes dafnau o ddŵr yng nghorneli ffenestri a waliau, dylech eu sychu gyda chadach
  • Cadwch eich system MVHR ymlaen

Os hoffech fwy o awgrymiadau ar leihau anwedd, ewch i’n gwefan: https://www.taisirddinbych.co.uk/lleithder/

I wneud yn siŵr bod eich cartref yn parhau i ddiwallu eich anghenion, bydd angen cymeradwyaeth ysgrifenedig arnoch gan ein tîm atgyweirio a chynnal a chadw cyn gwneud unrhyw newid neu waith addasu.

Byddai angen i ddifrod i’ch cartref gael ei atgyweirio ar unwaith gan aelod o’n tîm ac mae’n bosibl y codir tâl am hynny.

Mae gennych chi flwch llythyrau allanol yng nghefn yr adeilad, wrth ymyl y drws cefn. Gall cwmnïau ddanfon nwyddau heb orfod mynd i mewn i’r adeilad. Gallwch gasglu'ch post yn y cyntedd wrth ymyl y drws cefn. Byddwch yn cael goriad i allu gwneud hyn. 

Nid oes modd gosod pibell awyru y tu allan ar gyfer sychwr dillad arferol ac nid oes lle ar ei gyfer.

Ydych, ar yr amod eich bod chi’n eu gosod yn saff. 

Dyma un o’r darnau pwysicaf o wybodaeth ynglŷn â byw yn eich cartref newydd. Gan fod hwn yn adeilad cymunedol, nid ydych chi’n gallu rhoi unrhyw beth y tu allan i’ch cartref sy’n sownd wrth wal neu reiliau.

Oes, mae yna lifft yn yr adeilad – cofiwch ddilyn y cyngor yn y lifft. Peidiwch â rhoi beics, sgwteri na dodrefn yn y lifft.

Peidiwch â defnyddio’r lifft pan fo tân – dilynwch y canllaw diogelwch tân am fwy o wybodaeth.   

Ni ddylid defnyddio’r ardal ar ben grisiau i gadw unrhyw beth oherwydd y gall hynny achosi perygl tân. Defnyddiwch eich rhandy i gadw eich eitemau, ac eithrio beics a sgwteri. Mae yna lefydd i storio’r rhain y tu allan i’r rhandai. 

Nac ydych, oherwydd fe all hynny achosi perygl tân. Defnyddiwch eich rhandy i gadw eich eitemau, ac eithrio beics a sgwteri. Mae yna lefydd i storio’r rhain y tu allan i’r rhandai. 

Oes, tu allan y tu ôl i’r rhandai. Defnyddiwch yr ardaloedd yma i gadw’ch beics a’ch sgwteri.  

I agor y drws ffrynt, defnyddiwch eich ffob drws. Mae’r uned intercom y tu allan i brif ddrws ffrynt yr adeilad, gyda rhif bob rhandy ar y panel. 

Ydych – defnyddiwch eich ffob drws. 

Y tu ôl i’r rhandai, wrth ymyl y lle parcio. 

Mae yna lefydd parcio i breswylwyr y tu ôl i’r rhandai. Mae yna hefyd ychydig o lefydd parcio i ymwelwyr. 

Oes, mae yna ardd gymunedol fechan a lle eistedd tu ôl i’r adeilad. 


I lawrlwytho PDF o'r canllaw hwn, cliciwch y ddolen hon.