Addasiadau a newidiadau

Rydyn yn awyddus i chi’n deimlo'n gyfforddus yn eich cartref ac rydym yn deall y byddech chi'n hoffi gwneud rhai newidiadau weithiau. Gallwn ni helpu a chynghori, a bydd angen ein caniatâd arnoch cyn bwrw ‘mlaen ag ambell ddarn o waith.

Sut ydw i’n gofyn i gael addasu neu newid rhywbeth?

Cyn i chi wneud unrhyw waith ar eich eiddo (ac eithrio addurno), mae’n rhaid cysylltu â’ch swyddog tai am sgwrs anffurfiol am yr hyn yr hoffech ei wneud.

Mae’n rhaid i chi ysgrifennu atom i gael ein cymeradwyaeth cyn codi, tynnu neu osod (nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr):

  • Waliau, toeau, ffenestri, drysau a lloriau (ac eithrio carpedi)
  • Socedi / ffitiadau trydanol
  • Gwres canolog gan gynnwys rheiddiaduron a phibellau
  • Tanau nwy a chyfarpar trydanol
  • Unedau cegin a ffitiadau ystafell ymolchi yn cynnwys cawodydd
  • Garejys, siediau, a chytiau
  • Ffensys, gatiau a llwybrau
  • Lleiniau caled / cyrbau wedi'u gollwng
  • Porthau, ffenestri, drysau, atodiadau ar oledd ac ystafelloedd haul
  • Mesuryddion Dŵr
  • Pyllau pysgod a thapiau allanol.
  • Wal gardd gynhaliol / prif welliannau gardd yn cynnwys torri coed
  • Lôn y tŷ
  • Addurniadau allanol

Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu neu ganiatâd cynllunio ar gyfer gwelliannau neu newidiadau. Os yw hyn yn wir, byddwn yn anfon eich ymholiad ymlaen i’r adran gywir. Os hoffech gyngor neu eglurhad ar welliannau neu newidiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod eich cynnig yn gyntaf.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Unwaith rydym wedi rhoi caniatâd, rydych yn gyfrifol am y gwaith ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â’n telerau.

Efallai y byddwch angen darparu tystysgrifau cydymffurfio ac ati unwaith y byddwch wedi cwblhau’r gwaith.

O bosib byddwn yn archwilio’r gwaith ar ôl i chi ei gwblhau.

Os gwneir gwaith heb ganiatâd, efallai y byddwn yn cymryd nifer o gamau i gael eich cartref yn ôl i’w stad gwreiddiol ac yn codi tâl arnoch i wneud hynny. Gallwn wrthod caniatâd os ydym o'r farn bod y gwaith yn beryglus neu os yw'n lleihau'r gwerth neu'n cyfyngu'r eiddo mewn unrhyw ffordd.
I wneud cais, cysylltwch â ni.