Strategaethau a chynlluniau

Strategaeth Dai

Datblygwyd Strategaeth Dai Sir Ddinbych ar sail y weledigaeth y dylai "Pawb gael eu cefnogi gyda balchder i fyw mewn cartrefi sy'n diwallu eu hanghenion, o fewn cymunedau bywiog a chynaliadwy Sir Ddinbych, yn unol â'n huchelgais”.

Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, datblygwyd y Strategaeth ar sail 5 thema, pob un ohonynt yn gysylltiedig â'i gilydd:

  1. Mwy o gartrefi i fodloni’r angen a’r galw lleol
  2. Creu cyflenwad o gartrefi fforddiadwy
  3. Cartrefi diogel ac iach
  4. Cartrefi a chymorth i bobl sy’n agored i niwed
  5. Hyrwyddo a chefnogi cymunedau.