Atgyweiriadau y codir tâl amdanyn nhw
Os byddwn yn gwneud unrhyw atgyweiriadau neu waith sy’n berthnasol, neu o ganlyniad i unrhyw newidiadau, ddifrod neu welliannau heb ganiatâd yr ydych wedi’i wneud neu ei esgeuluso, byddwch yn gyfrifol am dalu am unrhyw gost i’w wella.
Enghreifftiau o gostau yr amcangyfrifir ar gyfer atgyweiriadau y codir tâl amdanyn nhw yn cynnwys:
- Sinc ystafell ymolchi - £200
- Newid panel bath - £65
- Toiled - £215
- Rhwystrau yn y system - £45
- Cael mynediad i’ch cartref a gorfod newid y cloeon am eich bod wedi colli eich
- goriadau - £70
- Newid cloeon - £45
- Newid y drws ffrynt - £880
- Gwydr dwbl wedi torri - £120
- Newid drws mewnol - £130
Holl alwadau atgyweiriadau y codir tâl amdanyn nhw, sy’n cael eu gwneud tu allan i oriau gwaith arferol, 9am - 5pm yn cynnwys cost galw allan ychwanegol o £120. Byddwn hefyd o bosib yn codi tâl am fethu apwyntiadau.
Bydd unrhyw gostau yn cael eu hanfonebu a’u hychwanegu ar eich cyfrif rhent ac yn ymddangos fel ôl-ddyledion tan y byddwn yn derbyn taliad llawn.