Clefyd y Llengfilwyr

Mae Clefyd y Llengfilwyr yn haint ar yr ysgyfaint sy’n cael ei achosi drwy anadlu diferion bach o ddŵr wedi’i halogi sy’n cynnwys bacteria.  Gellir cael y bacteria hyn weithiau mewn systemau dŵr poeth ac oer, mewn cawodydd, tapiau a thoiledau ac yn y blaen. Anaml iawn y bydd pobl yn ei ddal yn eu cartrefi. Er mwyn helpu i atal yr amodau lle mae’r bacteria hyn yn tyfu, gallwch wneud y canlynol:

Fel tenant, dylech chi:

  • Beidio â newid y gosodiadau ar eich boeler neu system gwresogi dŵr. Dylid eu gosod fel bod dŵr yn cael ei wresogi i 60°C.
  • Gofalu bod y dŵr sy’n dod o allanfeydd oer yn oer.
  • Rhedeg dŵr drwy unrhyw gawodydd sydd yn eich cartref am o leiaf ddau funud bob wythnos (yn enwedig mewn ystafelloedd i westeion lle nad oes cymaint o ddefnydd arnynt). Cadwch draw o’r llif dŵr wrth i chi wneud hyn.
  • Glanhau pen y gawod o bryd i’w gilydd, tynnu’r cen oddi arno a’i ddiheintio. Dylid gwneud hyn bob chwe mis o leiaf

RHOWCH WYBOD I NI MOR FUAN Â PHOSIBL:

  • Os yw’r dŵr oer yn parhau i redeg yn gynnes ar ôl i chi redeg y dŵr a all fod wedi cronni yn y peipiau yn gyntaf. Ni ddylai fod yn gynhesach na 20°C.
  • Os oes problemau o ran llif dŵr, malurion neu liw drwg yn y dŵr.
  • Os nad yw’r boeler neu danc dŵr poeth yn gweithio’n iawn, yn enwedig os nad yw’r dŵr sy’n dod o’r tapiau yn ddigon cynnes. Dylai ddod allan ar dymheredd o 50°C ar ôl ei redeg am funud.

Byddwn yn archwilio tua 10% o’n cartrefi bob blwyddyn am glefyd y llengfilwyr. Mae hyn yn cael ei wneud gan gontractwyr arbenigol a fydd yn cysylltu â chi ymlaen llaw os yw’ch cartref wedi’i ddewis ar gyfer samplu.  Os bydd gennych ragor o gwestiynau, cysylltwch â ni.