At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

Atgyweiriadau y codir tâl amdanyn nhw

Os byddwn yn gwneud unrhyw atgyweiriadau neu waith sy’n berthnasol, neu o ganlyniad i unrhyw newidiadau, ddifrod neu welliannau heb ganiatâd yr ydych wedi’i wneud neu ei esgeuluso, byddwch yn gyfrifol am dalu am unrhyw gost i’w wella.

Enghreifftiau o gostau yr amcangyfrifir ar gyfer atgyweiriadau y codir tâl amdanyn nhw yn cynnwys:

  • Sinc ystafell ymolchi - £200
  • Newid panel bath - £65
  • Toiled - £215
  • Rhwystrau yn y system - £45
  • Cael mynediad i’ch cartref a gorfod newid y cloeon am eich bod wedi colli eich
  • goriadau - £70
  • Newid cloeon - £45
  • Newid y drws ffrynt - £880
  • Gwydr dwbl wedi torri - £120
  • Newid drws mewnol - £130

Holl alwadau atgyweiriadau y codir tâl amdanyn nhw, sy’n cael eu gwneud tu allan i oriau gwaith arferol, 9am - 5pm yn cynnwys cost galw allan ychwanegol o £120. Byddwn hefyd o bosib yn codi tâl am fethu apwyntiadau.

Bydd unrhyw gostau yn cael eu hanfonebu a’u hychwanegu ar eich cyfrif rhent ac yn ymddangos fel ôl-ddyledion tan y byddwn yn derbyn taliad llawn.