Cyfrifoldeb am Atgyweiriadau

Mathau o atgyweiriadau rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw

Mae rhestrau Contract Tenantiaeth rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw wrth drwsio a chynnal a chadw eich cartref, yn cynnwys ond ddim yn gyfyngedig i:

Y tu allan

  • Newid y cloeon os ydych yn colli eich goriadau
  • Y gost o gael mynediad os ydych yn cael eich cloi allan
  • Erialau/socedi teledu oni bai eu bod nhw’n gymunol
  • Lein ddillad oni bai eu bod nhw’n gymunol
  • Gwaelod grât o fewn deuddeg mis o’i adnewyddu
  • Cynnal eich gardd yn cynnwys torri’r lawnt, ardaloedd biniau du a gwastraff
  • Unrhyw wydr sydd wedi torri. Os bydd rhywun yn torri i mewn i’ch eiddo, mae’n rhaid i chi gael rhif trosedd gan yr heddlu

Y tu mewn

  • Cloeon drysau mewnol
  • Pwyntiau ffôn
  • Addurno tu mewn, oni bai fod difrod wedi’i achosi oherwydd nam strwythurol
  • Offer trydanol, yn cynnwys poptai, oergelloedd, peiriannau golchi dillad, peiriannau golchi llestri ac yn y blaen
  • Plygiau a chadwyni ar gyfer sinciau, baths a sinciau golchi dwylo
  • Gorchuddion llawr yn cynnwys addasu’r drysau fel bod modd gosod carpedi
  • Seddi a chaeadau toiledau
  • Rhwystrau yn y system oherwydd gwastraff, yn cynnwys sinciau, baths a thoiledau
  • Gosodion a gosodiadau yn cynnwys bachau cotiau, llenni a rheiliau llenni
  • Plâu h.y. morgrug, gwenyn meirch, gwenyn, chwilod duon, llygod, llygod mawr a pỳcs

Mathau o atgyweiriadau rydym yn gyfrifol amdanyn nhw

Rydym yn gyfrifol am drwsio a chynnal a chadw strwythur eich cartref. Mae hyn yn cynnwys:

Y tu allan

Ar du allan eich cartref, byddwn yn trwsio:

  • Simnai a chorn simnai
  • Draeniau, landerau a pheipiau allanol
  • Ffensys a gatiau
  • Sylfeini
  • Drysau allanol
  • Waliau allanol
  • Addurniadau allanol
  • Llwybrau, grisiau a mynedfeydd eraill i’r adeilad
  • To
  • Portshys
  • Ffenestri, yn cynnwys sil ffenestr, cliciedi, cordiau sash a fframiau

Y tu mewn

Tu fewn i’ch tŷ, byddwn yn trwsio:

  • Systemau gwres canolog a systemau nwy ar wahân i waedu’r rheiddiadur
  • Weiars trydanol, socedi plwg
  • Twymwyr tanddwr a thwymwyr dŵr poeth
  • Drysau mewnol a fframiau drws
  • Cegin yn cynnwys arwynebau gweithio ond ddim offer domestig
  • Sinciau golchi dwylo a sinciau cyffredinol ar wahân i rwystrau yn y system
  • Switsys a gosodiadau golau, ar wahân i fylbiau golau, switsys pylu, ffiwsys, tiwbiau
  • fflworoleuol a chychwynwyr
  • Switsys a socedi
  • Systemau plymio, yn cynnwys pibellau, tanciau, stopfalfiau, tapiau, sestonau a
  • gosodiadau toiled, gosod wasier newydd mewn tap, ar wahân i rwystrau yn y system.
  • Bordiau wal
  • Plastro
  • Bordiau llawr
  • Gwaith Coed
  • Grisiau
  • Drysau yn cynnwys fframiau a handlenni drws, blwch llythyrau ac ati
  • Glanhau’r simnai
  • Atgyweiriadau plymio a gollyngiadau ar wahân i beiriannau golchi dillad, peiriannau
  • golchi llestri a gwaedu rheiddiaduron
  • Ystafell ymolchi yn cynnwys:
    • baths (ar wahân i ryddhau rhwystrau yn y system)
    • gosodion a gosodiadau, ar wahân i seddi toiled, cypyrddau ystafell ymolchi,
    • drychau, llenni cawod, rheiliau cawod, rheiliau llieiniau a dalwyr rholiau toiled
  • Cyflawni un cwrs o reoli plâu ar gyfer llygod mawr a bach, chwain, chwilod duon neu bỳcs.

Fflatiau

Mewn bloc o fflatiau lle mae pobl yn cyd-letya byddwn yn cynnal:

  • Coridorau
  • Mynediadau
  • Cyfleusterau a rennir yn cynnwys erialau teledu, systemau mynediad ar ddrysau,
  • golau’r ardal gymunol, ardaloedd biniau
  • Grisiau