Llys Elizabeth

Cyflwyniad i’ch cartref Newydd – Llys Elizabeth, Y Rhyl

Croeso i’ch cartref newydd! Mae’r canllaw byr hwn yn bwynt cyfeirio cyflym i’ch rhoi ar ben ffordd yn eich cartref newydd. Ceir cyflwyniad byr isod ynghylch rhai o’r offer sydd gennych yn eich cartref, sy’n gweithio gyda’i gilydd i wneud eich cartref yn fwy ynni’n fwy effeithlon.

Tai Cyngor newydd Llys Elizabeth yn y Rhyl
Tai Cyngor newydd Llys Elizabeth yn y Rhyl

Gwybodaeth gwresogi

Beth i’w ddisgwyl yn yr wythnosau a’r misoedd cyntaf:

Cyngor o ddydd i ddydd ar sut i gael y gorau allan o fyw yn eich cartref newydd

Dŵr poeth

Daw eich dŵr poeth o’r silindr dŵr poeth yn y cwpwrdd yn y gegin. Mae’ch boeler nwy yn yr uned wal yn y gegin.

Mae’r rhaglennydd dŵr peth yn eich ystafell fyw ac yn edrych fel hyn:

Rhaglennydd Dŵr Poeth
Rhaglennydd Dŵr Poeth

Bydd eich rhaglennydd yn anfon signal i’r boeler yn dibynnu ar dymheredd eich cartref. Os yw eich cartref yn mynd yn rhy boeth, bydd yn anfon signal i’r boeler i ddiffodd y gwres a bydd yn troi ymlaen pan fydd eich tŷ yn mynd yn rhy oer. Mae’r thermostat fel arfer yn cael ei osod rhwng 18ºC a 21ºC.

Rhaglennu eich amserydd gwres

Mae’r amserydd neu’r rhaglennydd yn eich helpu i reoli pryd mae’ch gwres yn dod ymlaen ac yn diffodd.

Trwy ei raglennu, gallwch wneud yn siŵr ei fod yn gweithio yn y ffordd fwyaf addas i chi a’ch cartref.

Dyma awgrym ar sut i wresogi’ch cartref:

  • Gosodwch y rhaglen fel bod eich gwres yn dod ymlaen hanner awr cyn i chi:
    • godi yn y bore
    • dod adref
    • mynd i’r gwely neu fynd allan

Fel arfer bydd cartref yn cymryd hanner awr i gynhesu ac oeri. Trwy wneud hyn, dylai’ch cartref fod yn gynnes heb wastraffu ynni.

Mae gan wefan y gwneuthurwr gyfarwyddiadau llawn a llawlyfrau defnyddwyr yn yr adran 'Manuals & Brochures' i chi.

Llawlyfrau a chyfarwyddiadau defnyddwyr Worcester Bosch

Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, gadewch i ni wybod a gallwn drefnu bod rhywun yn galw heibio i ddangos sut mae popeth yn gweithio.

Cyngor cyffredinol:

  • Ceisiwch ddefnyddio offer y cartref sy’n arbed ynni (cyfradd A) a bylbiau golau ynni isel
  • Caewch y tapiau os nad ydych yn defnyddio’r dŵr
  • Agorwch y bleindiau a’r llenni yn ystod y dydd yn y gaeaf
  • Peidiwch â gorchuddio’r rheiddiaduron gyda gwrthrychau fel bagiau, gan y bydd hyn yn atal y gwres rhag cylchredeg o amgylch yr ystafell
  • Dylech osgoi defnyddio llenni hir sy’n gorchuddio’r rheiddiaduron
  • Byddwn yn trefnu bod eich system MVHR, a’ch cyfnewidiwr gwres yn cael eu gwasanaethu’n flynyddol
  • Siopwch o gwmpas am ddarparwr ynni – mae gan wahanol gyflenwyr wahanol gynigion
  • Gwnewch newidiadau tymhorol i gael y gorau o’ch system wresogi. Er enghraifft, yn ystod tywydd cynnes meddyliwch a oes angen i’r gwres fod ymlaen
  • Dylech bob amser gysylltu â ni ar 01824 706000 yn ystod oriau gwaith os ydych am wneud unrhyw newid i’ch cartref

Lle bo hynny’n bosibl, peidiwch â:

  • Gorchuddio neu gau bylchau o amgylch y drysau mewnol yn eich cartref. Mae’r rhain yno i helpu i gylchredeg aer o gwmpas y tŷ.

Effeithlonrwydd Ynni

Cwestiynau Cyffredin

Gwybodaeth bellach

Dyma rai tudalennau gwe defnyddiol am fwy o gyngor a chefnogaeth:

Lawrlwythwch gopi o'r dudalen hon fel llyfryn: