Ailddatblygu swyddfeydd presennol i ddarparu rhandy hunangynhwysol
Mae’r hen swyddfeydd y llywodraeth yn Llys Anwyl yn Churton Road yn Y Rhyl wedi bod yn wag ers cryn amser a mae ein cynnig i'w prynu at ddefnydd newydd wedi'i dderbyn gan y perchnogion. Erbyn hyn rydym mewn cyfnod lle gallwn symud ymlaen ymhellach a hysbysu o'n cynlluniau i gyflwyno cais Cynllunio ar gyfer datblygiad ar y safle.
Pam ydym ni'n cyflwyno'r cais Cynllunio hwn?
Rydym yn gwybod o'r rhestr aros am dai cymdeithasol yn Sir Ddinbych bod angen fflatiau hygyrch yn Y Rhyl. Rydym yn credu y byddai’r swyddfeydd yn Llys Anwyl yn gwneud lleoliad addas ar gyfer datblygiad o’r fath ynghyd.
Beth fydd yn digwydd os cymeradwyir y cais cynllunio?
Os caiff ein cais Cynllunio ei gymeradwyo, byddwn yn 12 fflat ar y safle.
Pam rydym ni'n ymgynghori ynghylch ein cynigion ar hyn o bryd?
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyn i ni gyflwyno ein cais Cynllunio oherwydd mae hyn yn ofynnol ar gyfer datblygiadau a fydd yn darparu mwy na naw o gartrefi. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi edrych ar fersiynau drafft o'r dogfennau y byddwn yn eu cyflwyno gyda'n cais Cynllunio ac i wneud sylwadau am y cynigion.
Dogfennau cais cynllunio drafft
Bydd y dogfennau y byddwn yn eu cyflwyno gyda'n cais Cynllunio fel y rhai y gallwch eu gweld isod. Dyma'r fersiynau drafft a byddant yn cael eu cwblhau unwaith y cawn adborth o'r ymgynghoriad cyn ymgeisio hwn.
Dweud eich dweud
I wneud sylwadau am y datblygiad arfaethedig, bydd angen i chi ysgrifennu atom erbyn 13ed Medi 2020 naill ai;
drwy e-bost at tai@sirddinbych.gov.uk neu
drwy lythyr at Tai Sir Ddinbych, Blwch Post 62, Rhuthun LL15 9AZ
Adborth
Os hoffech gyflwyno sylw, gwnewch hynny gan ddefnyddio'r ffurflen.