
Unedau masnachol a fflatiau arfaethedig |
---|
Mabwysiadwyd brîff datblygu gan Gyngor Sir Ddinbych yn 2015 i arwain ar ddatblygiad yn y dyfodol ar yr ardal o amgylch Tŷ Nant ym Mhrestatyn. Erbyn hyn rydym mewn cyfnod lle gallwn symud ymlaen ymhellach a hysbysu o'n cynlluniau i gyflwyno cais Cynllunio ar gyfer datblygiad ar y safle. |
Pam ydym ni'n cyflwyno'r cais Cynllunio hwn? |
---|
Rydym yn gwybod o'r rhestr aros am dai cymdeithasol yn Sir Ddinbych bod angen fflatiau hygyrch ym Mhrestatyn. Rydym yn credu y byddai’r tir lle mae safle'r hen lyfrgell yn gwneud lleoliad addas ar gyfer datblygiad o’r fath ynghyd â rhai unedau masnachol ar y lefel llawr gwaelod i alluogi mwy o wasanaethau yng nghanol y dref. |
Beth fydd yn digwydd os cymeradwyir y cais cynllunio? |
---|
Os caiff ein cais Cynllunio ei gymeradwyo, byddwn yn adeiladu 2 uned fasnachol a 14 fflat ar y safle. |
Pam rydym ni'n ymgynghori ynghylch ein cynigion ar hyn o bryd? |
---|
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyn i ni gyflwyno ein cais Cynllunio oherwydd mae hyn yn ofynnol ar gyfer datblygiadau a fydd yn darparu mwy na naw o gartrefi. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi edrych ar fersiynau drafft o'r dogfennau y byddwn yn eu cyflwyno gyda'n cais Cynllunio ac i wneud sylwadau am y cynigion. |
Dogfennau cais cynllunio drafft |
||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Bydd y dogfennau y byddwn yn eu cyflwyno gyda'n cais Cynllunio fel y rhai y gallwch eu gweld isod. Dyma'r fersiynau drafft a byddant yn cael eu cwblhau unwaith y cawn adborth o'r ymgynghoriad cyn ymgeisio hwn. |
Arfarniad Ecolegol Rhagarweiniol |
---|
I wneud sylwadau am y datblygiad arfaethedig, bydd angen i chi ysgrifennu atom erbyn 31ed Awst 2020 naill ai; drwy e-bost at tai@sirddinbych.gov.uk; neu drwy lythyr at Tai Sir Ddinbych, Blwch Post 62, Rhuthun LL15 9AZ |
Adborth |
---|
Os hoffech wneud sylw, gwnewch hynny trwy lenwi'r ffurflen. |
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru