Diogelwch tân mewn mannau cymunol
Anaml iawn y ceir tanau yn ein heiddo. Os byddant yn digwydd, bydd adeiladwaith yr unedau eiddo mewn adeiladau cymunol yn rhoi digon o amddiffyniad i sicrhau bod modd i’r tân gael ei gyfyngu, a’i ddiffodd gan y gwasanaeth tân cyn i unrhyw broblemau mawr godi.
Mae nifer o systemau wedi’u gosod mewn eiddo o’r math hwn i’ch diogelu:
Synwyryddion mwg yn eich cartref:
Mae gennych synhwyrydd mwg a fydd yn dechrau gweithio dim ond ar ôl iddo synhwyro mwg a chael ei gychwyn gan larwm gwres, sydd yn eich cegin fel arfer. Dim ond mewn gwres mawr y bydd y larwm yn seinio. Bydd yn cychwyn y brif system larwm tân gymunol dim ond os bydd mwg, mygdarth neu wres yn cynyddu’n sylweddol ac yn mynd o’ch cartref i’r mannau cymunol.
System Larwm Tân Gymunol:
Os bydd y system larwm tân gymunol yn seinio, dylech adael yr adeilad ar unwaith, mynd at ffrynt yr adeilad, ac ymgynnull gyda’r preswylwyr eraill yn y maes parcio neu wrth y pwynt sydd wedi’i ddynodi ar gyfer ymgynnull os ceir tân.
Bydd y Gwasanaeth Tân yn dod os cadarnhawyd bod tân a bydd yn rheoli’r sefyllfa. Bydd y Gwasanaeth Tân yn rhoi caniatâd i ddychwelyd i’r adeilad pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
Os byddwch yn clywed y system larwm tân yn seinio ac yn teimlo nad ydych yn gallu gadael eich cartref, dylech aros yno a disgwyl i rywun ddod i’ch achub. Os gallwch fynd at ffenestr, gwnewch hynny.
Os ydych yn pryderu am rywbeth neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, bydd ein staff yn falch iawn o ymweld i drafod hyn â chi.
Crynodeb
- Os byddwch yn gweld tân, dylech chi adael yr adeilad ar unwaith ym mhob achos. Cychwynnwch y larwm os gallwch wrth adael a ffoniwch 999 pan fyddwch yn glir o’r adeilad.
- Os bydd y brif system larwm tân gymunol yn seinio, dylech adael yr adeilad ar unwaith ym mhob achos.
- Dylech ymgynnull yn y maes parcio gyda’r preswylwyr eraill.
- Bydd y Gwasanaeth Tân yn rhoi caniatâd i ddychwelyd i’r adeilad pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
- Os byddwch yn clywed y system larwm tân yn seinio ac yn teimlo nad ydych yn gallu gadael eich cartref, dylech aros yno a disgwyl i rywun ddod i’ch achub.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.