Cychwyn ymgynghoriad ar gynllun rhandai

Mae ymgynghoriad yn cael ei lansio ar gynlluniau i adeiladu rhandai ym Mhrestatyn a fydd yn addas ar gyfer tenantiaid â symudedd cyfyngedig.

Mae Tai Sir Ddinbych yn ymgynghori â phreswylwyr cyn cyflwyno cais am 15 rhandy ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor yn The Dell, Prestatyn.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Rydyn ni’n gwybod o’r rhestr aros am dai yn Sir Ddinbych fod angen am randai ym Mhrestatyn sy’n addas ar gyfer pobl hŷn.

“Mae’r Cyngor yn berchen ar ddarn o dir a fyddai’n lleoliad addas ar gyfer datblygiad o’r fath yn ein barn ni am fod mynediad gwastad oddi yno at y siopau cyfagos a’r gwasanaethau yng nghanol y dref.

“Mae creu llety fel hyn yn helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hwy ac mae’n rhan o’r ymrwymiad yn ein Cynllun Corfforaethol i weithio gyda phobl a chymunedau i ddarparu rhagor o dai a meithrin annibyniaeth a gwydnwch.”

Os caiff y cais cynllunio ei gymeradwyo, bydd pum rhandy un/dwy ystafell wely wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, yn cael eu hadeiladu ar y llawr gwaelod. Ar y lloriau uwchben bydd cyfanswm o ddeg rhandy un/dwy ystafell wely gyda lifft i fynd atynt a gellir eu haddasu ar gyfer tenantiaid â symudedd cyfyngedig.

Bydd lle parcio ar gyfer pob rhandy a thri lle i ymwelwyr.

Bydd Tai Sir Ddinbych yn darparu 170 o gartrefi Cyngor ychwanegol drwy’r sir dros y pedair blynedd nesaf a The Dell fydd y cynllun adeiladu newydd cyntaf i gael ei ddarparu drwy’r rhaglen hon.

Gall preswylwyr hefyd roi sylwadau am y datblygiad arfaethedig cyn 8 Awst drwy www.taisirddinbych.co.uk/thedell; Tai Sir Ddinbych, Blwch Post 62, Rhuthun LL15 9AZ neu datblygiadtai@denbighshire.gov.uk