Y preswylwyr cyntaf yn symud i gartrefi effeithlon o ran ynni

Mae fflatiau effeithlon o ran ynni’r Cyngor ym Mhrestatyn wedi croesawu eu preswylwyr cyntaf.

Mae’r allweddi wedi cael eu trosglwyddo ar gyfer dau o’r pedwar fflat un ystafell wely ar safle hen ffreutur Ysgol Bodnant ar Ffordd Caradoc.

Mae fflatiau carbon isel newydd Tai Sir Ddinbych wedi’u hardystio i safon effeithlonrwydd ynni Passive House. Cafodd y gwaith o’u hadeiladu, a wnaed gan Gontractwyr Adeiladu Peter T Griffiths o Ogledd Cymru, ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Tai Arloesol.

Mae’r pedwar fflat wedi’u hadeiladu i fod yn dra effeithlon o ran eu defnydd o ynni er mwyn lleihau pwysau costau byw ar ein tenantiaid yn ogystal â helpu Sir Ddinbych a Chymru i gyrraedd eu targedau di-garbon.

Mae’r cartrefi newydd hyn yn rhan o ymrwymiad Cyngor Sir Ddinbych i fynd i’r afael â’r amseroedd aros am lety drwy fynd i’r afael â’r angen am ragor o gyflenwad tai lleol.

Ar ôl symud i mewn, dywedodd un o denantiaid y fflatiau newydd: “Rwyf wrth fy modd gyda’m tŷ ynni goddefol, yn bendant, dyma’r ffordd ymlaen i’r dyfodol a theimlaf y byddai unrhyw un yn ffodus iawn o gael cartref fel hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n bleser gennym groesau’r preswylwyr cyntaf i’r fflatiau newydd hyn ym Mhrestatyn ac rwy’n dymuno’n dda iddynt yn eu cartrefi newydd. Mae’r Cyngor hefyd yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth ein partneriaid sydd wedi helpu i wireddu’r safle hwn ar Ffordd Caradoc.

“Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod yna gartrefi ar gael yn y sir i ddiwallu anghenion ein trigolion. Bydd y fflatiau newydd hyn yn diwallu’r anghenion hyn drwy ddarparu llety o ansawdd sydd nid yn unig yn fforddiadwy ond hefyd wedi’u hadeiladu hyd y safonau uchaf i helpu i leihau’r defnydd o ynni ac allyriadau carbon a gostwng biliau’r cartref.”