Tenantiaid Tai i gael eu hanrhydeddu am eu cyflawniadau

Mae’r cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Tenantiaid Tai Sir Ddinbych 2022 bellach ar agor.

Mae’r digwyddiad mawreddog yn gyfle i enwebu tenantiaid a dathlu eu cyflawniadau a’u cyfranogiad ar draws y sir, am y gwaith maent yn ei wneud yn eu cymunedau a phrosiectau sy’n cael eu cynnal ar draws y Sir.

Bydd y digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal ym Mwyty 1891 yn y Rhyl, yn dathlu popeth mae tenantiaid a chymunedau yn ei gyflawni, yn ogystal ag arddangos y prosiectau maent yn rhan ohonynt ar draws Sir Ddinbych.

Bydd y gwobrau eleni’n cael eu noddi gan Brenig Construction, sef y contractwr arweiniol ar brosiect Llwyn Eirin yn Ninbych, sy’n cynnwys y tai cyngor newydd cyntaf i gael eu dylunio a’u hadeiladu ar gyfer ardal Sir Ddinbych mewn 30 o flynyddoedd.

Bydd ein categorïau gwobrau yn cynnwys:

  • Tenant y Flwyddyn
  • Tenant Ifanc y Flwyddyn (o dan 25)
  • Cymydog y Flwyddyn
  • Preswylydd Tai / Grŵp Cymunedol y Flwyddyn
  • Gwobr Gwasanaethau Cwsmeriaid ar ran Tai Sir Ddinbych
  • Prosiect Cymunedol y Flwyddyn
  • Arwr Cymunedol
  • Gardd y Flwyddyn - Ardal Gymunedol
  • Gardd y Flwyddyn - Tenantiaid/Unigolion
  • Gardd y Flwyddyn - Ardal Gyffredin
  • Arwr y Cyfnod Clo

 

Dywedodd y Cyng. Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Bob dydd rydym yn gweld llawer iawn o waith cadarnhaol yn cael ei wneud ar draws ein cymunedau, dan arweiniad ein tenantiaid, i gefnogi a gwella ansawdd bywyd i bawb.

“Mae ein cymunedau hefyd yn gweithio’n galed ar brosiectau lleol sydd wedi’u hanelu at helpu pobl leol.

“Mae cynnal y gwobrau hyn yn ffordd wych o ddathlu ac anrhydeddu’r cyflawniadau a wnaed gan unigolion a chymunedau ac rydym yn annog enwebiadau o bob rhan o Gymunedau Sir Ddinbych.”

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau neu i gyflwyno enwebiad, cysylltwch â Thai Sir Ddinbych ar 01824 706000, tai@sirddinbych.gov.uk neu ewch i’n gwefan www.taisirddinbych.co.uk/gwobrau

Bydd yr enwebiadau yn cau ar 29 Gorffennaf.